Llywodraeth Cymru (Saesneg: Welsh Government) yw'r llywodraeth ar gyfer Cymru sy'n cynnwys y Prif Weinidog a'i Gabinet. Hyd mis Mai 2011, yr enw oedd Llywodraeth Cynulliad Cymru (Saesneg: Welsh Assembly Government). Newidiwyd yr enw er mwyn osgoi dryswch rhwng y llywodraeth ei hun sydd, fel pob llywodraeth, yn gorff gweithredol, a Senedd Cymru, sy'n gorff deddfwriaethol.[1] Fe'i cyfansoddwyd dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006; mae Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru yn ddau gorff ar wahân - yr un fath â Senedd y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig neu unrhyw lywodraeth a senedd arall. Y corff democrataidd, etholedig, sy'n cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, sy'n llunio cyfreithiau Cymru ac sy'n gwneud Llywodraeth Cymru'n atebol yw Senedd Cymru.[2] Hyd at Mai 2020 yr enw ar Senedd Cymru oedd 'Cynulliad Cenedlaethol Cymru'.
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. Gweler y dudalen sgwrs am ragor o wybodaeth. |
Aelodau'r Cabinet a Gweinidogion
Dyma gyfansoddiad presennol Llywodraeth Cymru (ers 16 Gorffennaf 2024):[3][4]
Ysgrifenyddion y Cabinet
Portffolio | Enw | Etholaeth | Plaid | Tymor | ||
---|---|---|---|---|---|---|
Prif Weinidog | Vaughan Gething AS | De Caerdydd a Phenarth | Llafur | 2024– | ||
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet | Rebecca Evans AS | Gŵyr | Llafur | 2021– | ||
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Eluned Morgan AS | Canolbarth a Gorllewin | Llafur | 2021– | ||
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg | Dim[4] | |||||
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth | Ken Skates AS | De Clwyd | Llafur | 2024– | ||
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol | Dim[4] | |||||
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig | Huw Irranca-Davies AS | Ogwr | Llafur | 2024– | ||
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Lynne Neagle AS | Torfaen | Llafur | 2024– | ||
Cwnsler Cyffredinol | Dim[4] | |||||
Prif Chwip a Threfnydd y Senedd | Jane Hutt AS | Bro Mogannwg | Llafur | 2024– |
Gweinidogion
Portffolio | Enw | Etholaeth | Plaid | Tymor | ||
---|---|---|---|---|---|---|
Y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar | Jayne Bryant AS | Gorllewin Casnewydd | Llafur | 2021– | ||
Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol | Dawn Bowden AS | Merthyr Tudful a Rhymni | Llafur | 2024– | ||
Y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol | Sarah Murphy AS | Pen-y-bont ar Ogwr | Llafur | 2024– |
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Dolen allanol
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.