pentref a chymuned ar arfordir gogledd Cymru ym mwrdeisdref sirol Conwy From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Conwy, Cymru, yw Llysfaen.[1][2] Saif ar arfordir gogledd y sir, hanner milltir o'r môr tua hanner ffordd rhwng Abergele i'r dwyrain a Bae Colwyn i'r gorllewin. Mae'r pentrefi cyfagos yn cynnwys Hen Golwyn, Llanddulas, Dolwen a Betws-yn-Rhos. I'r dwyrain ceir Mynydd Marian. Mae tua 2,680 o bobl yn byw yno ( Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback 2005). Mae'r gymuned yn cynnwys stad Peulwys.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 2,743, 2,736 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 566.82 ha |
Cyfesurynnau | 53.283°N 3.666°W |
Cod SYG | W04000132 |
Cod OS | SH887771 |
Cod post | LL29 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Gill German (Llafur) |
Heddiw mae'r pentref yn rhan o sir Conwy, ond hyd 1923 bu'n alldir o'r hen Sir Gaernarfon wedi ei amgylchu'n gyfangwbl gan yr hen Sir Ddinbych; bu'n rhan o sir Clwyd o 1974 hyd 1996. Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gantref Rhos. Mae eglwys Sant Cynfran yn dyddio i'r Oesoedd Canol; yn ôl traddodiad lleol fe'i sefydlwyd gan y sant yn y flwyddyn 777.
Am gyfnod hir bu llawer o bobl y pentref yn gweithio yn chwareli calchfaen cyfagos Llysfaen a Llanddulas. Cludai llongau arfordirol y calchfaen i Lerpwl neu Fleetwood o Sieti Rayne ym Mae Llanddulas.
Ceir ysgol gynradd leol, Ysgol Cynfran, siop SPAR, neuad y pentref, a thri pharc.
Dywedir i'r eglwys gael ei sefydlu gan Sant Cynfran yn 777. Mae'r adeilad presennol yn dyddio o 1377 ond mae'n cynnwys meini o'r eglwys gynharach. Yn 1870 cafodd yr eglwys ei adnewyddu'n sylweddol ar gost o £1,950 a chollwyd nifer o baneli pren canoloesol. Mae rhai o'r cofebion yn yr eglwys yn dyddio i'r 17g. Amgylchynir y llan gan wal cerrig a cheir Ffynnon Gynfran tua 100 medr i'r gogledd o'r eglwys.
Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 2,736.[3]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llysfaen (pob oed) (2,743) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llysfaen) (552) | 21.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llysfaen) (1691) | 61.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llysfaen) (360) | 34.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.