![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f3/Llwynypia.jpg/640px-Llwynypia.jpg&w=640&q=50)
Llwynypia
pentref yng Nghymru / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yng Nghwm Rhondda, ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Llwynypia[1][2] neu Llwyn-y-pia. "Pioden" yw ystyr pia,[3] a benthyciwyd enw'r dref o enw fferm a fu yma ar un cyfnod. Ardal amaethyddol oedd hon hyd at 1850 pan dyllwyd sawl glofa yn y cyffiniau; gwelodd y dref gynnydd aruthrol yn ei phoblogaeth rhwng 1860 a 1920.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llwyn-y-Pia ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.6351°N 3.4486°W ![]() |
Cod OS | SS998939 ![]() |
Cod post | CF40 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Elizabeth (Buffy) Williams (Llafur) |
AS/au | Chris Bryant (Llafur) |
![]() | |
Cau
Ceir ambell garnedd o Oes yr Efydd ar Fynydd y Gelli, i'r gorllewin o'r dref, yn ogystal â charnedd Hendre'r Gelli, sy'n dyddio o'r Oes Haearn.
Ystadegau:[4]
- Mae gan y gymuned arwynebedd o 2.584 km².
- Yng Nghyfrifiad 2001 roedd ganddi boblogaeth o 2,253.
- Yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddi boblogaeth o 2,247.
- Yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2020 roedd ganddi boblogaeth o 2,242, gyda dwysedd poblogaeth o 867.8/km².
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elizabeth (Buffy) Williams (Llafur)[5] ac yn Senedd y DU gan Chris Bryant (Llafur).[6]