![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/10/Llansadwrn_Churchyard_-_geograph.org.uk_-_525261.jpg/640px-Llansadwrn_Churchyard_-_geograph.org.uk_-_525261.jpg&w=640&q=50)
Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin
pentref yn Sir Gaerfyrddin / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan, cymuned a phlwyf yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llansadwrn. Fe'i lleolir yng nghefngwlad Dyffryn Tywi tua hanner ffordd rhwng Llanymddyfri i'r gogledd-ddwyrain a Llandeilo i'r de-orllewin. Yn ôl traddodiad fe'i sefydlwyd gan y sant cynnar Sadwrn (fl. tua 460).
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 517 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 2,988.21 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.95°N 3.9°W ![]() |
Cod SYG | W04000539 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
![]() | |
Cau
- Am y pentref o'r un enw yn Ynys Môn, gweler Llansadwrn, Ynys Môn.
Pedair milltir i'r gorllewin o'r pentref ceir adfeilion Abaty Talyllychau. Roedd yr uchelwr grymus Syr Rhys ap Gruffudd (c.1283-1356) yn frodor o Lansadwrn. Roedd ganddo blasdy ac ystad yn Abermarlais, o fewn y plwyf.
Cynrychiolir cymuned Llansadwrn yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Jonathan Edwards (Annibynnol).[1][2]