Sadwrn, a elwir hefyd yn Sadwrn Farchog (ganed tua 480) oedd sylfaenydd eglwysi Llansadwrn (Sir Gaerfyrddin) a Llansadwrn (Ynys Môn). Ffurf Ladin ei enw oedd Saturnus neu Saturninus. Cymysgir ef yn aml gyda Saturnin, sant a ddanfonwyd o Rufain i Toulouse gan y Pab Fabian yn y ganrif gyntaf O.C.
Sadwrn | |
---|---|
Ganwyd | 480 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Dydd gŵyl | 29 Tachwedd |
Priod | Santes Canna |
Hanes a thraddodiad
Roedd Sadwrn yn frawd i Illtud a mab i Bican. Mae'r enw yn awgrymu iddo fod yn filwr. Dywedir iddo briodi Canna, a bu ganddynt fab, Sant Crallo.
Yn 1742 cafwyd hyd i garreg fedd ym mynwent eglwys Llansadwrn, Môn, sydd yn awr wedi ei gosod ym mur yr eglwys. Yn ôl V. E. Nash-Williams, mae’r arysgrif arni yn darllen:
- HIC BEATUS (-) SATURNINUS SE(PULTUS) (I)ACIT ET SUA SA[NCTA] CONIU(N)X PA(X) (VOBISCUM SIT)[1]
Gellir ei gyfieithu fel:
- Yma y claddwyd y bendigaid Saturninus a’i wraig sanctaidd. Boed heddwch iddynt.
Gŵyl mabsant Sant Sadwrn yw 29 Tachwedd, ond mae'n debyg fod hyn oherwydd iddo gael ei gymysgu a Sant Saturninus o Toulouse. Mae cerflun ohono ar fedd yn eglwys Biwmares sy'n ei ddangos fel marchog barfog.
Eglwysi
Rhestr Wicidata:
# | Eglwys neu Gymuned | Delwedd | Cyfesurynnau | Lleoliad | Wicidata |
---|---|---|---|---|---|
1 | Eglwys Sant Sadwrn | 53.2017°N 3.46508°W | Henllan | Q17741618 | |
2 | Eglwys Sant Sadwrn | 53.2601°N 4.16942°W | Cymuned Cwm Cadnant | Q17741708 | |
3 | Eglwys Sant Sadwrn, Llansadwrn | 51.966323°N 3.9004633°W | Llansadwrn | Q29489508 | |
4 | Eglwys Sant Sadwrnen | 51.764662°N 4.4915294°W | Treflan Lacharn | Q29502768 |
Cyfeiriadau
Gweler hefyd
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.