pentref ym Mwrdeistref Sirol Conwy From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llanfihangel Glyn Myfyr.[1][2] Roedd yn hanesyddol yn rhan o'r hen Sir Ddinbych. Saif yng nghornel dde-ddwyreiniol eithaf y sir yn ardal wledig Uwch Aled, tua 2 filltir i'r gogledd-ddwyrain o Gerrigydrudion ar yr hen lôn i Ruthun. Mae Afon Alwen, sydd â'i tharddle yn Llyn Alwen tua 4 millir i'r gogledd-orllewin, yn llifo heibio i'r pentref ar ei ffordd i ymuno ag Afon Dyfrdwy. I'r de o'r pentref ceir bryn isel Mwdwl-eithin.
Y bont ar Afon Alwen yn Llanfihangel Glyn Myfyr | |
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 189, 200 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,351.22 ha |
Cyfesurynnau | 53.031°N 3.506°W |
Cod SYG | W04000125 |
Cod OS | SH991492 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Jones (Ceidwadwr) |
Ymwelodd William Wordsworth â’r pentref ym 1824 i aros gyda ffrind, Robert Jones, yn y persondy, ac ysgrifennodd y gerdd Vale of Meditation am y pentref.[3]
Ar ddydd Iau, 24 Mai 2007, cadarnheuwyd gan lefarydd ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru fod yr achos cyntaf o ffliw adar yng Nghymru wedi ei ddarganfod ar fferm yn Llanfihangel Glyn Myfyr. Rhoddwyd cordon 1 cilomedr o gwmpas y fferm a gofynnwyd i ffermwyr eraill fod yn wyliadwrus. Nid oedd y math mwyaf peryglus o ffliw adar, meddai'r llefarydd. Rhai wythnosau'n ddiweddarach datganwyd fod yr argyfwng drosodd.[4]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanfihangel Glyn Myfyr (pob oed) (189) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfihangel Glyn Myfyr) (128) | 69.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfihangel Glyn Myfyr) (137) | 72.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfihangel Glyn Myfyr) (17) | 21.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Eglwys fechan o’r 13g yw hon, a saif ar lan Afon Alwen, mewn ardal sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i lenorion ers canrifoedd. Yma y symudwyd bedd Owain Myfyr ym 1951, yn ôl i fro ei febyd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.