canwr, cyfansoddwr a bardd o bentref Fethel ger Caernarfon From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Gwilym Bowen Rhys (ganwyd 23 Hydref 1992) yn ganwr a chyfansoddwr o Gymru sy'n dod o bentref Bethel ger Caernarfon.
Gwilym Bowen Rhys | |
---|---|
Ganwyd | 23 Hydref 1992 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | canwr, bardd |
Perthnasau | Zonia Bowen |
Gwefan | https://www.gwilymbowenrhys.com/ |
Cafodd fagwraeth Gymraeg a Chymreig, yn cystadlu ar lwyfan eisteddfodau lleol. Yn 14 oed yn 2007, ymunodd gyda’i ddau gefnder a chyfaill i ffurfio’r band roc Y Bandana. Yn 2012 sefydlodd grŵp gwerin amgen, Plu gyda'i ddwy chwaer; Elan a Marged.
Yn ogystal â cherddoriaeth, mae ganddo hefyd ddiddordeb angerddol mewn hanes a diwylliannau cynhenid, ac felly yn ddigon naturiol, fe dyfodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth traddodiadol ein gwlad. Cychwynodd astudio Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae wedi cael y fraint o deithio ledled y byd yn perfformio gyda phrosiectau NEXO yn yr Ariannin a TOSTA yng Nghymru, Iwerddon, Yr Alban, Cernyw, Fryslân, Galisia a Gwlad y Basg.[1]
Ers rhai blynyddoedd bellach mae wedi bod yn canu ac ymchwilio mewn i ganeuon ac alawon traddodiadol o Gymru a cheisio codi ymwybyddiaeth o'n cerddoriaeth a’n llenyddiaeth gynhenid.
Cyrhaeddodd cystadleuaeth Cân i Gymru ddwy waith gan gyfansoddi gyda ei fam Siân.[2]
‘'O Groth y Ddaear’' yw ei albwm unigol gyntaf a lansiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni, 2016.
Enillodd y wobr am yr Artist Unigol Gorau yng Ngwobrau Gwerin Cymru 2019. Derbyniodd enwebiad ar gyfer gwobr yr Artist Unigol Gorau yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 2019.[3]
Mae diddordeb Gwilym yn cwmpasu cerddoriaeth pop Cymraeg a hefyd cerddoriaeth draddodiadol Cymru. Mae'n canu'r Pibgod a bu'n bibydd yn arwain Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth yn 2014.
Yn Ebrill 2014 cychwynnodd ddysgu y grefft o wneud clocsiau. Roedd y crefftwr Trefor Owen o Griccieth wedi bwriadu ymddeol o'i waith yn gwneud clocsiau ond doedd neb i gymeryd yr awenau. Cynigiodd y Tywysog Charles wneud cyfraniad er mwyn hyfforddi crefftiwr newydd a bu Gwilym yn cael hyfforddiant yn y grefft.[4] Yn 2016 aeth i rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn yr adran Prentis Sylfaen y Flwyddyn.[5]
Bu Gwilym yn perfforio yng Gŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant yn Llydaw yn haf 2022.[6] Fel rhan o'r cyfnod bu iddo recordio ffilmig gan sianel gerddoriaeth ar-lein S4C, Lŵp, gyda'r gantores Llydwig, Azenor Kallag, yn cymharu geiriau Cymraeg a Llydaweg. Bu i'r ffilm fer dderbyn ymateb dda a llawer yn ei rannu.[7]
Rhieni Gwilym yw Rhys Harris, cyn-aelod o'r Trwynau Coch a Siân Harris. Mae'n ŵyr i'r diweddar brifardd ac archdderwydd Geraint Bowen. Ei famgu ar ochr ei fam yw Zonia Bowen.
Teitl | Fformat | Label | Rhif Catalog | Dyddiad Rhyddhau |
---|---|---|---|---|
O Groth y Ddaear | Albwm, CD | Fflach: tradd | CD358H | 2016 |
Detholiad o Hen Faledi, I | Albwm, CD | Erwydd | ER001 | 2018 |
Arenig | Albwm,CD | Erwydd | ER003 | 2019 |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.