Offerynnau cerdd yw'r pibau Cymreig. Ceir sawl math, e.e. pibgorn, côd-biban, pibgod, pibgwd, pibau cyrn, pibau cwd, bacbib, pibau gwynt.

Ffeithiau sydyn Math, Gwlad ...
Pibau Cymreig
Thumb
Mathpibgod Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
Cau
Thumb
Antwn Owen Hicks a Gafin Morgan yn chwarae pibau Cymreig yng ngŵyl An Oriant, Awst 2008
Thumb
Rhodri Gibbon, fel rhan o Bagad Sblot ond bu hefyd yn aelod o Avanc yn arwain Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth yn 2024 gyda Sam Petersen oedd hefyd yn Avanc, yn canu'r pibgod (y gaita o Galisia)

Ceir tystiolaeth am bibau gwynt yng Nghymru o'r 10g ymlaen, ond bu i'r traddodiad farw erbyn diwedd y 19g oherywdd newid mewn ffasiwn a chwaeth cerddorol a dylanwad y mudiad Methodistaidd a filwriodd, ar y cychwyn, yn erbyn cerddoriaeth 'werin' am resymau crefyddol. Erbyn hyn, dim ond un enghraifft o bibau gwynt Cymreig a geir, a hynny yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.

Serch hynny, cafwyd adfywiad mewn diddordeb mewn canu'r pibau ers yr 1980au.

Bydd 'badgad' o bipwyr Cymreig yn arwain Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth bob blwyddyn. Ymhlith y rhai bu'n gorymdeithio bu Gwilym Bowen Rhys (cyn leisydd grŵp y Bandana) a Geraint Roberts o Ystalyfera. Yn 2024 canwyd tonau Hoffed ap Hywel, Crwtyn Llwyd, a Chalon Lân ar y pibau gan 'Bagad Sblot' sef, Sam Petersen a Rhodri Gibbon o'r grŵp gwerin, Avanc o Gaerdydd.[1][2]

Dolenni

Cyfeiriadau

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.