Bardd yn hanu o Lanelli, Sir Gaerfyrddin, oedd y Dr. Geraint Bowen (10 Medi 191516 Gorffennaf 2011). Treuliodd ei ieuenctid yng Ngheinewydd, Ceredigion. Roedd wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon, Gwynedd. Bu'n Arolygydd Ysgolion am gyfnod.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Geraint Bowen
Ganwyd10 Medi 1915 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
Bu farw16 Gorffennaf 2011 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
PriodZonia Bowen Edit this on Wikidata
Cau

Enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberpennar 1946. Mae cwpled o'r awdl, bellach, yn epigram poblogaidd iawn:

Y gŵr a arddo'r gweryd
A heuo faes - gwyn ei fyd.

Roedd Geraint yn Archdderwydd o 1978 tan 1981. Roedd e'n frawd i'r bardd y diweddar Euros Bowen ac yn ŵr i Zonia Bowen, sefydlydd Merched y Wawr.

Cerddi

  • Awdl Foliant i Amaethwr
  • Cân y Ddaear
  • Cân yr Angylion
  • T. Gwynn Jones (Y Bardd Celtaidd)
  • Cwm Llynor
  • Y Drewgoed
  • Cywydd y Coroni
  • Yr Aran
  • Prynhawnddydd
  • Dr. Gwenan Jones
  • Teyrnged i Gwyndaf
  • Cyfarch Bro Myrddin
  • Ar Doriad Gwawr
  • Branwen

- a llawer o gerddi eraill.

Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.