From Wikipedia, the free encyclopedia
Cymdeithas ddi-elw sy'n amddiffyn hawliau sifil yn y maes digidol yn Ewrop yw European Digital Rights (EDRI). Fe'i sefydlwyd ym mis Mehefin 2002 pan ddaeth sawl mudiad preifatrwydd a hawliau sifil Ewropeaidd at ei gilydd. Mae'n gymdeithas ddi-elw ryngwladol a gofrestrwyd yng Ngwlad Belg yn 2003. Erbyn hyn ceir 29 aelod llawn sy'n cydweithredu er mwyn gwarchod hawliau pobl yn yr oes ddigidol wrth i'r rheolau ynghylch y rhyngrwyd, hawlfraint a phreifatrwydd yn Ewrop neu o'r tu allan i Ewrop, ond gan effeithio arni'n uniongyrchol, gynyddu.[1]
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad rhyngwladol, carfan bwyso |
---|---|
Rhan o | digital rights movement |
Dechrau/Sefydlu | Mehefin 2002 |
Yn cynnwys | Access Now, ALCEI, Alternative informatics association, Association for Technology and Internet, ARTICLE 19, Bits of Freedom, Centrum Cyfrowe, Chaos Computer Club, CILD, Committee to Protect Journalists, D3 - Digital Rigths |
Prif weithredwr | Claire Fernandez |
Ffurf gyfreithiol | international non-profit association |
Pencadlys | Dinas Brwsel |
Rhanbarth | Dinas Brwsel |
Gwefan | https://edri.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae EDRI yn monitro datblygiadau ym mhob un o 45 gwlad Cyngor Ewrop ac ar draws Ewrop gyfan. Mae enghreifftiau o'r pethau dan sylw'r sefydliad yn cynnwys gorfodaeth cadw data (data retention) ar gyflenwyr gwasanaeth rhyngrwyd (ISPs), sbam, rhwystro telegyfathrebu, cyfyngiadau hawlfraint a defnydd teg, y 'Cytundeb seibr-drosedd',[2] ac asesu, ffiltrio a blocio gwefannau gan lywodraethau trwy orfodaeth ar ISPau.[1]
Yn 2010 roedd 29 sefydliad mewn 18 gwlad Ewropeaidd yn aelodau o EDRI.[3]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.