![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/25/St_David%2527s%252C_Eryrys_-_geograph.org.uk_-_195555.jpg/640px-St_David%2527s%252C_Eryrys_-_geograph.org.uk_-_195555.jpg&w=640&q=50)
Eryrys
pentref yn Sir Ddinbych / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a phlwyf yn Sir Ddinbych yw Eryrys( ynganiad ). Saif bum milltir i'r de o dref yr Wyddgrug ac ychydig i'r gogledd-ddwyrain o bentref Llanarmon-yn-Iâl ar fryn carreg galch Bryn Alyn (Cyfeirinod grid OS: SJ203578). Mae'r pentref 350m uwch lefel y môr, ac yn un o'r cystadleuwyr am y teitl o fod yn bentref uchaf Cymru, sef 1,123 troedfedd.[1] Y ddau arall yw: Bwlchgwyn, Wrecsam (335m) a Garn-yr-Erw, Torfaen (390m).[2] Saif ar ffin Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd.[3]
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.11°N 3.19°W ![]() |
Cod OS | SJ203578 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Ken Skates (Llafur) |
AS/au | Simon Baynes (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Cau
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Simon Baynes (Ceidwadwyr).[4][5]