Dolwen
pentref ym mwrdeistref sirol Conwy / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan yng nghymuned Betws-yn-Rhos, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Dolwen.[1] Fe'i lleolir ar groesffordd lle mae'r B5383 o Fae Colwyn yn cwrdd â'r B5381 sy'n cysylltu Glan Conwy, i'r gorllewin, a Llanelwy i'r dwyrain. Y dref agosaf yw Bae Colwyn, tua 4 milltir i'r gogledd.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Betws-yn-Rhos |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.255754°N 3.672812°W |
Cod OS | SH884745 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au | David Jones (Ceidwadwr) |
Cau
Llifa dwy o isafonydd Afon Dulas heibio i'r pentref ar ei ffordd o'r bryniau i aberu ym Môr Iwerddon ger Llanddulas. Yr enw ar un o'r isafonydd hyn ers talwm oedd Afon Dhôl Wen (c1700), sef tarddiad enw'r pentref.[2]
Cyfeirir at y pentref am y tro cyntaf mewn dogfen sy'n dyddio o 1546.