![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/df/Colwyn_Bay_-_geograph.org.uk_-_131878.jpg/640px-Colwyn_Bay_-_geograph.org.uk_-_131878.jpg&w=640&q=50)
Bae Colwyn
From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref arfordirol a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Bae Colwyn[1][2] (Saesneg: Colwyn Bay). Mae priffordd yr A55 yn pasio drwy'r dref ac mae ganddi orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae'n dref wyliau gyda phromenâd braf, pier a pharciau. Mae'r traeth yn llydan a diogel gyda thywod braf a rhimyn o gerrig mân. Mae'n dal i fod yn ganolfan siopa brysur er gwaethaf y gystadleuaeth o du'r archfarchnadau mawr. Lleolir pencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mharc Eirias. Ceir yn ogystal nifer o swyddfeydd llywodraeth leol a'r gwasanaeth sifil yn y dref, gan gynnwys rhai o swyddfeydd rhanbarthol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
Math | tref, cymuned, cyrchfan lan môr ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 10,981 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 779.57 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 53.29°N 3.7°W ![]() |
Cod SYG | W04000113 ![]() |
Cod OS | SH865785 ![]() |
Cod post | LL29 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au | David Jones (Ceidwadwr) |
![]() | |
Cau