Diciâu
From Wikipedia, the free encyclopedia
Clefyd a achosir gan deulu o facteria, yn enwedig Mycobacterium tuberculosis yw'r diciâu (TB). Hen enw ar y clefyd oedd y ddarfodedigaeth. Mae'n effeithio ar yr ysgyfaint yn bennaf, ond gall hefyd effeithio ar y system nerfau a rhannau eraill o'r corff. Cyhoeddodd Robert Koch ei ddarganfyddiad mai Mycobacterium tuberculosis oedd yn achosi'r diciâu ar 24 Mawrth 1882.
Enghraifft o'r canlynol | clefyd hysbysadwy, dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | primary bacterial infectious disease, mycobacterium infectious disease, endemic disease, clefyd heintus, clefyd, clefyd heintus newydd |
Lladdwyd | 1,700,000 |
Arbenigedd meddygol | Afiechydon heintiol |
Symptomau | Peswch, colli pwysau, y dwymyn, night sweats, poen y frest, fatigue, oerni |
Achos | Mycobacterium tuberculosis |
Dull trosglwyddo | Trosglwyddiad drwy'r aer |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pan gaiff unigolyn ei heintio gan amlaf bydd y system imiwnedd yn lladd y bacteria gyda gwrthgyrff ac ni fydd yr unigolyn yn dangos unrhyw symptomau. Os na all hyn ddigwydd, y llinell amddiffyniad nesaf yw i'r system imiwnedd adeiladu rhwystr o gwmpas y bacteria. Bydd y bacteria'n aros yng nghorff yr unigolyn (TB cudd) ond ni fydd yr unigolyn yn dangos unrhyw symptomau. Gall TB cudd ddatblygu'n TB gweithredol yn ddiweddarach ym mywyd unigolyn, yn enwedig os yw system imiwnedd yr unigolyn wedi gwanhau. Mewn ambell i achos ni all y system imiwnedd ladd neu ddatblygu rhwystr rhag yr haint. Yna bydd y bacteria yn ymledu'n araf i'r ysgyfaint a'r system dreulio.