![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/1a/HIV-budding-Color.jpg/640px-HIV-budding-Color.jpg&w=640&q=50)
HIV
wrth-firws, sy'n achosi syndrom diffyg imiwnolegol caffaeledig (AIDS) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Firws yw Firws Diffyg Imiwnedd Dynol (Saesneg: Human Immune Deficiency Virus neu HIV). Mae'n fath o firws a elwir yn wrth-firws (retrovirus), sy'n heintio celloedd o'r system imiwnedd dynol, (gan fwyaf celloedd T CD4 positif a macroffagau, sy'n gydrannau allweddol o'r system imiwnedd gellog), ac fe ddinistrir neu amharir ar eu gweithrediad. Mae heintiad â HIV yn arwain at ddirywiad cynyddol o'r system imiwnedd gan ddilyn i 'ddiffygiant imiwnedd'.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | organebau yn ôl enw cyffredin ![]() |
---|---|
Dyddiad darganfod | 1983 ![]() |
Yn cynnwys | HIV type 1, HIV type 2 ![]() |
![]() |
Fe ystyrir y system imiwnedd yn ddiffygiol pan na ellir bellach gyflawni ei waith o ymladd afiechydon a heintiau. Mae pobl sydd â diffyg imiwnedd yn fwy tebygol o ddal heintiau sy'n anghyffredin ymysg pobl â system imiwnedd iach. Gelwir heintiau sy'n gysylltiedig â diffyg imiwnedd difrifol yn 'heintiau manteisgar' am eu bod yn cymryd mantais o system imiwnedd wan.
Nid oes iachâd i HIV ac nid oes brechlyn yn bodoli i atal heintio. Fodd bynnag, ers y 1990au, mae triniaethau cyffuriau sy'n atal gweithgaredd y firws yn y celloedd wedi cael eu datblygu. Mae'r rhain yn galluogi'r rhan fwyaf o bobl gyda HIV i aros yn iach a byw bywydau cymharol normal.