![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5f/Walter_Geikie_-_Drunken_Man_-_WGA8520.jpg/640px-Walter_Geikie_-_Drunken_Man_-_WGA8520.jpg&w=640&q=50)
Alcoholiaeth
From Wikipedia, the free encyclopedia
Y cyflwr meddygol o fod yn gaeth neu gwbl ddibynnol ar alcohol yw alcoholiaeth. Fe'i nodweddir gan ddefnydd direolaeth neu orfodaeth obsesiynol i yfed alcohol er gwaethaf yr effeithiau negyddol ar iechyd, perthynas a safle cymdeithasol yr yfwr. Fel gyda chaethiwed i gyffuriau eraill, diffinnir alcoholiaeth fel clefyd y gellir ei drin.[1] Gelwir rhywun sydd yn y fath gyflwr yn alcoholydd neu alcoholig. Crëwyd y term hwn gan Magnus Huss ym 1849 ond yn ystod y 1980au dechreuwyd defnyddio'r termau "camddefnyddio alcohol" a "dibyniaeth ar alcohol". Weithiau defnyddir y term dibyniaeth ar alcohol i fod yn gyfystyr ag alcoholiaeth.[2][3])
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | symptom neu arwydd ![]() |
---|---|
Math | camddefnyddio alcohol, syndrom dibyniaeth, anhwylder defnydd sylwedd ![]() |
![]() |
Cau
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d0/William_Hogarth_-_Gin_Lane.jpg/640px-William_Hogarth_-_Gin_Lane.jpg)