sant From Wikipedia, the free encyclopedia
Sant o Gymru oedd Cynog Ferthyr, Cynog ap Brychan neu'r Abad Cynog (bu farw 492). Dethlir ei ddydd gŵyl ar 7 neu 8 Hydref.
Yn ôl De Situ Brecheniauc Cynog oedd mab hynaf Brychan, brenin Brycheiniog. Yn ôl y Cognatio Brychan fe'i bedyddiwyd gan Sant Gastayn a oedd ag eglwys yn Mara, ger Llangasty Tal-y-llyn.
Dywedir i dad Brychan, Anlach, ei roi fel gwystl i Banadl, brenin Powys, pan oedd yn ifanc, ond cafodd Brychan berthynas gyda merch Banadl, sef Banhadlwedd a chafodd fab - Cynog.[1] Rhoddodd Brychan un o sawl torch o'i fraich yn anrheg i Cynon a chadwyd hi fel crair am ganrifoedd. Claddwyd ef ym Merthyr Cynog. Disgrifiodd Gerallt Gymro'r dorch fel 'breichled o liw, pwysau a theimlad ag aur; mae mewn pedair rhan wedi'u cysylltu gyda'i gilydd gan ben ci a'i ddannedd am allan' (Itin.Kamb., I.2). Cuddiodd Rhys ap Gruffudd, neu'r 'Arglwydd Rhys' y dorch er mwyn ei gadw'n ofalus yn Ninefwr (Itin. Kamb., II.2).
Cafodd ei ladd naill ai gan y Sacsoniaid neu gan fôrladron o Iwerddon ym Merthyr Gynog, Brycheiniog, yn y flwyddyn 492.
Dywedir fod Cynog wedi sefydlu eglwysi yn Llangynog ym Mhowys, Defynnog, Ystrad Gynlais, Penderyn a Merthyr Cynog. Fe'i cysylltir hefyd â Llangynog (Sir Fynwy) (Llangunnock yn Saesneg; i'r de o Llanfihangel Tor-y-mynydd) a Llangunnock (Llangynog) yn Sir Henffordd[2].
Nodir ei enw yn y rhestr Gernyweg o blant Brychan, a cheir 'Boconnoc' ('Bod-conoke' yn 1382) (II.269) dair milltir i'r gogledd-ddwyrain o Lostwydhyel (Saesneg: Lostwithiel). Ceisiodd rhai ei gysylltu gyda Mochonóc, yn y rhestr Wyddelig, ond mae hyn yn annhebygol.
Rhestr Wicidata:
# | Eglwys neu Gymuned | Delwedd | Cyfesurynnau | Lleoliad | Wicidata |
---|---|---|---|---|---|
1 | Defynnog | 51.9395°N 3.56468°W | Maescar | Q5251744 | |
2 | Eglwys Sant Cynog | 52.0261°N 3.481°W | Merthyr Cynog | Q17741862 | |
3 | Eglwys Sant Cynog | 51.8082°N 4.41143°W | Powys Llangynog |
Q17743050 | |
4 | Eglwys Sant Cynog | 51.9395°N 3.56468°W | Maescar | Q17743393 | |
5 | Eglwys Sant Cynog | 51.968362°N 3.4449923°W | Ysgir | Q29485864 | |
6 | Eglwys Sant Cynog | 52.045118°N 3.2730695°W | Y Clas-ar-Wy | Q29494786 | |
7 | Eglwys Sant Cynog | 51.765653°N 3.5304875°W | Hirwaun | Q29495593 | |
8 | Eglwys Sant Cynog | 52.824118°N 3.4067829°W | Llangynog | Q29504306 | |
9 | Eglwys Sant Gwynog | 52.5335°N 3.44284°W | Caersŵs | Q17744091 | |
10 | Eglwys St Cynog | 51.775938°N 3.759281°W | Powys | Q114614829 | |
11 | Llangynog | 51.82°N 4.41083°W | Sir Gaerfyrddin | Q6661578 | |
12 | Llangynog | 52.824406°N 3.405141°W | Powys | Q13129653 | |
13 | Merthyr Cynog | 52.0167°N 3.48333°W | Powys | Q3404562 | |
14 | Pluw Voskennek | 50.416°N 4.611°W | Cernyw | Q1969237 |
Mae'n debyg y bu ganddo gell meudwy. Ceir traddodiad iddo deithio i Gernyw gyda Sant Cadog.
Cyfeiria Gerallt Gymro at freichled a roddwyd i Gynog gan Frychan ac a addolwyd fel crair ar ddiwedd y 12g.
Priodolodd Iolo Morgannwg nifer o wirebau (dywediadau doeth) i Gynog a gyhoeddwyd yn y Myvyrian Archaiology of Wales, ond gwyddys erbyn hyn eu bod yn ffrwyth dychymyg Iolo ei hun.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.