cyn-Brif Weinidog Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd Llafur yw Carwyn Jones (ganwyd 21 Mawrth 1967) a wasanaethodd fel Prif Weinidog Cymru ac Arweinydd Llafur Cymru rhwng 2009 a 2018. Gwasanaethodd fel Cwnsler Cyffredinol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru rhwng 2007 a 2009. Bu'n aelod o'r Cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr rhwng 1999 a 2021.
Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones | |
---|---|
Jones yn 2016 | |
Prif Weinidog Cymru | |
Yn ei swydd 10 Rhagfyr 2009 – 12 Rhagfyr 2018 | |
Teyrn | Elizabeth II |
Dirprwy | Ieuan Wyn Jones (2009–2011) |
Rhagflaenwyd gan | Rhodri Morgan |
Dilynwyd gan | Mark Drakeford |
Arweinydd Llafur Cymru | |
Yn ei swydd 1 Rhagfyr 2009 – 6 Rhagfyr 2018 | |
Dirprwy | Carolyn Harris (2018) |
Arweinydd | Gordon Brown Ed Miliband Jeremy Corbyn |
Rhagflaenwyd gan | Rhodri Morgan |
Dilynwyd gan | Mark Drakeford |
Cwnsler Cyffredinol Cymru | |
Yn ei swydd 19 Gorffennaf 2007 – 9 Rhagfyr 2009 | |
Prif Weinidog | Rhodri Morgan |
Gweinidog Gwladol | Charlie Falconer Jack Straw |
Rhagflaenwyd gan | Sefydlwyd y swydd |
Dilynwyd gan | John Griffiths |
Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg | |
Yn ei swydd 25 Mai 2007 – 19 Gorffennaf 2007 | |
Prif Weinidog | Rhodri Morgan |
Rhagflaenwyd gan | Jane Davidson |
Dilynwyd gan | Jane Hutt |
Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad | |
Yn ei swydd 13 Mai 2003 – 25 Mai 2007 | |
Prif Weinidog | Rhodri Morgan |
Rhagflaenwyd gan | Delyth Evans |
Dilynwyd gan | Jane Davidson |
Gweinidog Busnes y Cynulliad | |
Yn ei swydd 18 Mehefin 2002 – 13 Mai 2003 | |
Prif Weinidog | Rhodri Morgan |
Rhagflaenwyd gan | Andrew Davies |
Dilynwyd gan | Karen Sinclair |
Gweinidog dros Amaeth a Materion Gwledig | |
Yn ei swydd 23 Gorffennaf 2000 – 18 Mehefin 2002 | |
Prif Weinidog | Rhodri Morgan |
Rhagflaenwyd gan | Christine Gwyther |
Dilynwyd gan | Mike German |
Aelod o Senedd Cymru dros Ben-y-bont ar Ogwr | |
Yn ei swydd 6 Mai 1999 – 29 Ebrill 2021 | |
Rhagflaenwyd gan | Sefydlwyd yr etholaeth |
Mwyafrif | 5,623 (20.9%) |
Manylion personol | |
Ganwyd | Carwyn Howell Jones 21 Mawrth 1967 Abertawe |
Cenedligrwydd | Cymru |
Plaid wleidyddol | Llafur |
Priod | Lisa Jones |
Plant | 2 |
Alma mater | Prifysgol Cymru, Aberystwyth Inns of Court School of Law |
Galwedigaeth | Bargyfreithiwr |
Gwefan | www.carwynjonesam.co.uk |
Gwasanaethodd Jones fel Gweinidog yn barhaol o 23 Chwefror 2000 hyd ei ymddeoliad fel Prif Weinidog ar 11 Rhagfyr 2018 - cyfanswm o 6,867 diwrnod, gan ei wneud y Gweinidog Llafur a wasanaethodd hiraf yn hanes y Deyrnas Gyfunol.
Ganwyd Carwyn yn Abertawe ac fe'i magwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr mewn teulu o siaradwyr Cymraeg.[1] Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac aeth ymlaen i astudio ym Prifysgol Cymru, Aberystwyth,[2] lle ymunodd a'r Blaid Lafur yn ystod streic y glowyr 1984-85.[1]
Graddiodd o Brifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1988 gyda gradd yn y Gyfraith ac aeth ymlaen i Ysgol y Gyfraith Inns of Court yn Llundain i hyfforddi fel bargyfreithiwr.[2] fF'i galwyd i'r bar yn Gray's Inn yn 1989 a treuliodd flwyddyn pellach yng Nghaerdydd ar dymor prawf wedi ei ddilyn gan 10 mlynedd yn ymarfer yn Siambrau Gower, Abertawe ar gyfraith teuluol, troseddol ac anafiadau personol.[3] Gadawodd i fynd yn diwtor ym Mhrifysgol Caerdydd am ddwy flynedd ar y Cwrs Bar Galwedigaethol.[2]"[4]
Cystadlodd Carwyn yn anllwyddiannus am enwebiad Llafur yn sedd Brycheiniog a Sir Faesyfed yn 1997;[5] a dywedodd yn ddiweddarach mewn cyfweliad gyda'r BBC [6] ei fod wedi ystyried ceisio dod yn Aelod Seneddol, ond yn 1999, "cafodd gyfle" i sefyll dros etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn etholiadau cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ac mae wedi dal y sedd ers hynny.
Yn Ionawr 2020 fe'i benodwyd yn Athro'r Gyfraith rhan amser ym Mhrifysgol Aberystwyth.[7]
Enillodd Carwyn Jones y ras i olynu Rhodri Morgan fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru ar 1 Rhagfyr 2009, gyda 51.97% o'r bleidlais, gan drechu Edwina Hart (29.19%) a Huw Lewis (18.84%).[8] Enwebwyd ef gan y Cynulliad i olynu Rhodri Morgan fel Prif Weinidog Cymru ar y 9 o Rhagfyr[9] a chymerodd y llw drenydd, sef ddydd Iau, 10 Rhagfyr mewn seremoni ffurfiol dan arweiniad y barnwr Mr Ustus Nigel Davis yn swyddfa Carwyn Jones ym Mharc Cathays, Caerdydd.[10]
Ad-drefnodd cabinet Llywodraeth y Cynulliad ar ôl dod yn brif weinidog. Penododd Leighton Andrews, rheolwr ei ymgyrch,[10] fel Gweinidog dros Blant, Addysg, a Dysgu Gydol Oes. Ers ymddiswyddiad Gordon Brown yn 2010 Carwyn ydy'r Gweinidog uchaf ei swydd yn y Blaid Lafur drwy wledydd Prydain.
Ei daith dramor gyntaf fel Prif Weinidog oedd i Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Copenhagen ar 14 Rhagfyr 2009.[11] Gadawodd y gynhadledd yn gynnar y diwrnod canlynol oherwydd marwolaeth ei fam, Janice Jones.[12]
Yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2011 cynyddodd y Blaid Lafur y nifer o aelodau oedd ganddynt i un yn llai na'r hyn oedd ei angen i fod yn y mwyafrif. Penderfynodd Carwyn weithredu fel (ac i ffurfio) Llywodraeth yn hytrach na pharhau efo'r glymblaid.
Mewn araith yng nghynhadledd Llafur Cymru ar 21 Ebrill 2018 cyhoeddodd y byddai'n sefyll lawr fel arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog yn yr hydref.[13] Yn dilyn etholiad Mark Drakeford fel Arweinydd Llafur Cymru, cyhoeddodd y byddai'n ymddiswyddo fel Prif Weinidog ar 11 Rhagfyr 2018.
Mae Carwyn yn briod â Lisa a mae ganddynt ddau o blant.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.