prifysgol yng Ngheredigion From Wikipedia, the free encyclopedia
Prifysgol ymchwil cyhoeddus yn Aberystwyth, Ceredigion yw Prifysgol Aberystwyth. Hyd fis Medi 2007 ei henw swyddogol oedd Prifysgol Cymru, Aberystwyth.[2] Yn 1872 yr agorwyd sefydliad prifysgol cyntaf Cymru — 'y Coleg ger y Lli' a'r prifathro cyntaf oedd Thomas Charles Edwards. Ers hynny tyfodd nifer y myfyrwyr o 26 i dros 7,000 o fyfyrwyr, gan gynnwys bron i 2,000 o Gymru, a thros 1,100 o uwchraddedigion. Mae yno ddeunaw adran academaidd, sy'n dysgu ystod eang o bynciau. Yn 2016 fe'i dynodwyd y brifysgol mwyaf diogel i fyfyrwyr yng Nghymru ac ymysg y 10 saffa yn y DU (yn ôl y Complete University Guide 2016).
Aberystwyth | |||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Prif fynedfa'r Hen Goleg | |||||||||||||
Arwyddair | Nid Byd, Byd Heb Wybodaeth | ||||||||||||
Sefydlwyd | 1872 | ||||||||||||
Math | Cyhoeddus | ||||||||||||
Canghellor | John Thomas, Barwn Thomas Cwmgiedd | ||||||||||||
Is-ganghellor | Elizabeth Treasure | ||||||||||||
Staff | 5,230 | ||||||||||||
Myfyrwyr | 7,720 [1] | ||||||||||||
Israddedigion | 6,605 [1] | ||||||||||||
Ôlraddedigion | 1,115 [1] | ||||||||||||
Lleoliad | Aberystwyth, Cymru | ||||||||||||
Lliwiau | |||||||||||||
Tadogaethau | Prifysgol Cymru AMBA ACU University Alliance Universities UK HiPACT SEDA HEA | ||||||||||||
Gwefan | http://www.aber.ac.uk/cy/ |
Mae ymchwil yn rhan greiddiol o genhadaeth a gwaith y Brifysgol. Fe'i cefnogir gan Strategaeth Ymchwil er mwyn sicrhau y gall y Brifysgol barhau i gynhyrchu gwaith o safon uchel ac ymateb i amgylchedd sy'n newid drwy'r amser, mewn perthynas ag ymchwil a chyllido ymchwil.[3]
Ceir chwech Athrofa oddi fewn i Brifysgol Aberystwyth:[4]
a deunaw o Adrannau academaidd gan gynnwys Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, yr Adran Wleidyddiaeth Rhyngwladol (yr adran hynnaf o'i fath yn y byd) a'r Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylghcheddol a Gwledig sy'n adnabyddus yn fyd-eang am ei ymchwil.[5]
Mae modd astudio trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ystod eang iawn o feysydd bellach ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda dros 300 o gyrsiau bellach ar gael ble gellir astudio yn rhannol neu yn gyfan gwbl yn Gymraeg.[6]
Yn 2016, o ran bodlonrwydd myfyrwyr, roedd Prifysgol Aberystwyth yn 4ydd ar restr 'Ymchwil Myfyrwyr Cenedlaethol' o holl brifysgolion gwledydd Prydain, a 1af yng Nghymru, gyda 92% o'r myfyrwyr yn mynegi eu boddhad llwyr.[7] 4ydd yn y DU a 1af yng Nghymru, Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2016
O ran yr addysg a'r addysgu, roedd yn 79fed yn Rhestr Prifysgolion Da y The Times/Sunday Times a 93ydd y flwyddyn cyn hynny; yng Nghymru, roedd y drydedd brifysgol gorau.[8][9] Ceir rhestr 'Cyflogwyr o Fyd Busnes, TG a Pherianneg' hefyd, a dyfarnwyd Aberystwyth yn gydradd 49fed o ran y potensial i fyfyriw gael gwaith wedi cwbwlhau ei radd; gweler adroddiad Times Higher Education.[10] Yn y Times Higher Education World University Rankings 2016-17, roedd o fewn y 40 prifysgol gorau yn y DU.[11]
Yn 2016 roedd 92% o'i graddedigion mewn swyddi neu Addysg bellach o fewn 6 mis o raddio ac roedd 95% o ymchwil y Brifysgol o safon a gydnabyddir yn rhyngwladol neu’n uwch.
Noda Hefin Jones, yn ei astudiaeth o'r Ymerodraeth Brydeinig: "wrth sefydlu prifysgol gyntaf Cymru yn Aberystwyth yn 1872, nid oedd yr Anghydffurfwyr yn cynnig dim yn Gymraeg. Saesneg oedd popeth. Cafodd hyd yn oed y Gymraeg, pan gafodd ei chyflwyno fel pwnc ymhen hir a hwyr, ei dysgu drwy'r Saesneg."[12]
Ym mlwyddyn academaidd 2014-2015, roedd tua 1068 o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn gallu siarad Cymraeg. Roedd hyn yn ostyngiad o tua 79 o fyfyrwyr o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.[13]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.