Gorsaf radio lleol iaith Llydaweg ar gyfer ardal Bro-Leon From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Arvorig FM yn radio gymunedol Llydaweg a grëwyd yn 1998. Wedi'i leoli gyntaf ym mhentref Kommanna, symudodd wedyn i Landerne. Arvorig yw'r ffurf Llydaweg a'r y toponym a elwir yn Gymraeg yn Armorica ac yn Ffrangeg yn Armorique - yr enw a roddwyd yn y cyfnod Clasurol i'r rhan o Gâl rhwng y Seine a'r Loir sy'n cynnwys Penrhyn Llydaw, gan ymestyn tua'r tir i bwynt amhenodol a i lawr Arfordir yr Iwerydd.[1] Defnyddir yr enw bellach fel gair rhamantus, hanesyddol neu annwyl am Lydaw. Gellid gweld y geiriau ar môr cyfoes Gymraeg yn yr he enw Celteg Galeg.
Enghraifft o'r canlynol | local radio station |
---|---|
Pencadlys | Landerne |
Gwefan | https://arvorigfm.bzh/ |
Yn ogystal â rhaglenni ddarlledir yn Llydaweg yn unig, mae rhestr chwarae yr ordaf yn cael ei nodi gan amlygrwydd cerddoriaeth Lydaweg a cherddoriaeth y byd. Mae'n trosglwyddo mewn modiwleiddio amledd, yn bennaf yn y rhanbarth hanesyddol Bro-Leon. Mae ar gael ym mhobman arall yn uniongyrchol ar y rhyngrwyd.
Aethpwyd ati i greu seiliau Arvorig FM yn ninas Brest yn 1995.Gireg Konan oedd un o'r rhai a greodd Arvorig FM gyda David ar Gall, Andrev Roparzh, Ronan Hirrien, Ronan Debel, Jean-luc Bergot a phobl eraill o e Kommanna yn 1998. Gosodwyd y stiwdio gyntaf yn Kommanna ond maent nawr yn Landerne .
Cafodd Stress Radio amledd newydd gan y corff darlledu, CSA, yn 2007.
Ym Mehefin 2023 estynwyd rhwyd tonfedd Arvorig i wasanaethu dalgylch tref Montroulez yng ngogledd Penn-ar-Bed. Mae'r orsaf yno ar donfedd 89.9. Gobaith yr ymestyn yw cynyddu gwrandawyr a hefyd gwirforddolwyr i weithio a chyfrannu i'r orsaf. Mae'r orsaf yn rhannu cynnwys gyda 4 gorsaf Lydaweg ac un iaith Galaweg arall yn ogystal â chreu ei chynnwys lleol ei hun.[2]
Mae Arvorig FM yn derbyn cymorthdaliadau gan Gyngor Rhanbarthol Llydaw, Conseil général Finistère a Gweinyddiaeth Diwylliant Ffrainc.[3].
Mae Arvorig FM hefyd yn gweithio gyda chyfnewid rhaglenni o fewn y rhwydwaith o orsafoedd radio cysylltiadol yn yr iaith Lydaweg a elwyd yn wreiddiol yn Brudañ ha Skignañ ("trosglwyddo a darlledu") ond a elwir bellach yn Radio Breizh.[4] Mae'r rhwydwaith yn cynnwys Radio Kreiz Breizh, Radio Bro Gwened, Radio Kerne ac Arvorig FM a gorsaf Galweg ei hiaith. Cefnogir y rhwydwaith hwn gan Gyngor Rhanbarthol Llydaw, a chynghorau adrannol Finistère, Mor Bihan a Aodoù-an-Arvor.[5] Mae'n caniatáu i radios cysylltiadol gynhyrchu bwletin newyddion dyddiol yn yr iaith Lydaweg yn seiliedig ar gyfuno gwaith newyddiadurwyr o wahanol ystafelloedd newyddion.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.