Sefydlwyd Radio Bro Gwened yn 1983 fel gorsaf radio i wasanaethu ardal Bro Gwened (Morbihan) yn Llydaw. Mae'n darlledu rhaglenni yn Llydaweg a Ffrangeg gyda'r amcan o hyrwyddo a diogelu'r iaith Lydaweg a diwylliant Llydaw. Lleolir y pencadlys yn Pontivy.
Enghraifft o'r canlynol | gorsaf radio |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1983 |
Pencadlys | Pondi |
Gwefan | http://www.radio-bro-gwened.com |
Mae'n darlledu ar dair amledd FM : 92.6 Mhz (Pontivy), 101.7 Mhz (Nord-Morbihan) a 97.3 Mhz (De-Morbihan). Mae Radio Bro-Gwened yn darlledu 7 awr o raglenni amrywiol (4 awr yn Llydaweg) yn ogystal â rhaglenni newyddion a deunydd arall. Mae ar gael fel radio rhyngrwyd hefyd.
Mae Radio Bro-Gwened hefyd yn gweithio gyda chyfnewid rhaglenni o fewn y rhwydwaith o orsafoedd radio cysylltiadol yn yr iaith Lydaweg a elwyd yn wreiddiol yn Brudañ ha Skignañ ("trosglwyddo a darlledu") ond a elwir bellach yn Radio Breizh.[1]
Gweler hefyd
- Radio Kerne
- Radio Naoned
- Arvorig FM
- Radio Kreiz Breizh
- Radio Breizh - llwyfan i'r holl orsafoedd
Dolenni allanol
- (Llydaweg) (Ffrangeg) Gwefan yr orsaf Archifwyd 2011-08-31 yn y Peiriant Wayback
- (Llydaweg) (Ffrangeg) Gorsafoedd radio Llydaweg ar-lein Archifwyd 2021-02-11 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.