Cyngor rhanbarthol ar gyfer 4 o 5 departement llawn Llydaw. Lleoliad yn Roazhon, etholir pob 6 mlynedd. From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyngor rhanbarthol ar gyfer Llydaw weinyddol yw Cyngor Rhanbarthol Llydaw (Ffrangeg: Conseil régional de Bretagne, Llydaweg: Kuzul Rannvroel Breizh). Mae'n cynnwys 83 o gynghorwyr o 4 département ac nid y 5 llawn hanesyddol; mae département Liger-Atlantel (ardal dinas Naoned, prifddinas hanesyddol Llydaw ar un adeg, wedi ei hepgor. Cynhelir etholiadau i'r cyngor pob 6 mlynedd, bu'r un ddiwethaf yn 2021.
Enghraifft o'r canlynol | regional council |
---|---|
Rhanbarth | Roazhon |
Gwefan | http://www.bretagne.bzh/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Peidied drysu a Senedd Llydaw - senedd hanesyddol y wlad a sefydlwyd yn ystod Dugaeth Llydaw a bu'n weithredol hyd at iddo gael ei diddymu (er na gydnabyddodd y Senedd ei hun hynny) yn ystod y Chwyldro Ffrengig.
Cynhelir cynulliadau llawn yn Roazhon, ar safle'r Hôtel de Courcy [1] ger canol y ddinas, ar 9 rue Martenot, cyferbyn sgŵar La Motte ger Parc du Thabor ac wrth ymyl safle'r prefecture rhanbarthol. Lleolir y rhan fwyaf o'r gwasanaethau gweinyddol ar safle adilad Patton, yn yr ardal o'r un enw yn gogledd y ddinas.
Dosrennir seddi cynghorwyd y Cyngor yn ôl poblogaeth y pedwar departement:
Fel holl ranbarthau gweinyddol Ffrainc, ganed rhanbarth Llydaw yn ail hanner yr 20g. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, creodd archddyfarniadt[2] o 30 Mehefin 1941 a ysgrifennwyd gan Philippe Pétain ac a gyhoeddwyd ar 1 Gorffennaf 1941 yng Nghyfnodolyn Swyddogol Gwladwriaeth Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd, o dan feddiannaeth yr Almaen, Ranbarth Rennes, a oedd yn cynnwys adrannau Cotes du Nord (gelwir yn Aodoù-an-Arvor bellach), Finistère, Ille-et-Vilaine a Morbihan. Gyda rhyddhau Ffrainc rhag y Natsïaid, rhoddwyd terfyn ar y strwythur gweinyddol yma. Yn dilyn hynny, cafwyd archddyfarniad gweinidogol o 28 Tachwedd 1953 a lofnodwyd o dan y Bedwaredd Weriniaeth, egluro fframwaith y "rhaglenni gweithredu rhanbarthol" a gyflwynwyd gan archddyfarniad o 30 Mehefin 1955. Creodd yr archddyfarniad hwn rhanbarth o'r enw "Llydaw" ac sy'n cynnwys yr un peth terfynau fel Rhanbarth Rennes yn 1941. Mae'n cyfateb i 80% o arwynebedd Llydaw hanesyddol, wedi'i dorri i ffwrdd o'r Loire-Atlantique presennol. Mae'r terfynau hyn wedi aros yn sefydlog yn ystod y newidiadau yn statws yr etholaethau hyn.
Yn 2004, pleidleisiodd Cyngor Rhanbarthol Llydaw i greu Cyngor Ieuenctid Rhanbarthol (CRJ). Mae'r rhain yn swyddogion etholedig ifanc rhwng 14 a 18 oed sy'n cynrychioli eu tiriogaethau wrth wneud penderfyniadau sy'n peri pryder iddynt.
Ers ei sefydlu yn 1982 mae pwerau'r Cyngor Rhanbarthol wedi cynyddu, a hynny o fewn cyd-destun newidiadau ar draws holl gynghrau rhanbarthol Ffrainc.[3] Dylid nodi bod pwerau Cyngor Llydaw dipyn yn wannach na grymoedd Senedd Cymru. Gwerth nodi hefyd bod grymoedd a chyllideb départementau a chynghorau bwrdeitrefol Llydaw, fel yn Ffrainc, yn gryfach na'r rhai cyfatebol Cymreig.
Cyllideb gyffredinol ar gyfer rhanbarth Llydaw ar gyfer 2021 oedd €1.675bn - sydd tua 10% o gyllideb Senedd Cymru ar gyfer poblogaeth ychydig yn fwy.
Mae'r Cyngor, yn wahanol i Senedd Cymru neu'r Alban yn gweithredu ar bolisïau a deddfau sydd wedi eu gweithredu yng Chynulliad Cenedlaethol Ffrainc ym Maris. Nid oes ganddi pwerau deddfu.
Ceid tair gwahanol esblygiad ar yr hunaniaeth weledol ers sefydlu'r Cyngor yn yr 1980au.
Logo | Commentaire |
---|---|
Logo Cyngor Rhanbarthol Llydaw rhwng 1988 a 2005 (dyluniad ar siâp daearyddol Llydaw) | |
Logo Cyngor Rhanbarthol Llydaw: gwyrdd Argoat, glas yr Armor a'r ermine, yn bresennol ar yr arfbais a'r faner Lydaweg, sy'n ymddangos fel pe bai'n symud ac yn cymryd siâp y diriogaeth ranbarthol. Gellir ei ddirywio hefyd mewn unlliw yn lliwiau siart lliw Siarter Graffeg y Rhanbarth. Mae hefyd yn bodoli yn Llydaweg a Gallo. | |
Logo newydd ers 2016. Mae bellach ar gael mewn fersiwn monocrom yn un o liwiau siarter graffeg Rhanbarth Llydaw.[5]. |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.