![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/53/Andalucia_satelite.jpg/640px-Andalucia_satelite.jpg&w=640&q=50)
Andalucía
un o gymunedau ymreolaethol Sbaen / From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o gymunedau ymreolaethol Sbaen, a'r mwyaf ohonynt o ran poblogaeth, yw Andalucía (hefyd Andalwsia). Fe'i lleolir yn ne'r wlad, yn ffinio â Phortiwgal i'r gorllewin. Saif y cymunedau ymreolaethol Extremadura, Castilla-La Mancha a Murcia i'r gogledd, Môr y Canoldir i'r de-ddwyrain a Chefnfor yr Iwerydd i'r de-orllewin.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d0/Andalucia_in_Spain_%28including_Canarias%29_%28special_marker%29.svg/640px-Andalucia_in_Spain_%28including_Canarias%29_%28special_marker%29.svg.png)
![]() | |
![]() | |
Math | Cymunedau ymreolaethol Sbaen ![]() |
---|---|
Prifddinas | Sevilla ![]() |
Poblogaeth | 8,476,718, 8,476,718 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem | La bandera blanca y verde ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Juan Manuel Moreno ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | Buenos Aires ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 87,268 km² ![]() |
Uwch y môr | 600 metr ![]() |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd, Y Môr Canoldir ![]() |
Yn ffinio gyda | Extremadura, Castilla-La Mancha, Murcia (cymuned ymreolaethol), Gibraltar ![]() |
Cyfesurynnau | 37.405°N 5.9875°W ![]() |
Cod post | AN ![]() |
ES-AN ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Consejo de Gobierno de la Junta de Andalucía ![]() |
Corff deddfwriaethol | Senedd Andalucía ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Llywydd Cynulliad Andalucía ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Juan Manuel Moreno ![]() |
![]() | |
Daw'r gair "Andalucía" o'r Arabeg Al-Andalus. Bu'r rhan yma o Sbaen dan reolaeth y Mwslemiaid am gyfnod hirach nag unrhyw ran arall, o 711 hyd 1492. Mae'n cynnwys mynyddoedd uchaf Sbaen yn y Sierra Nevada, yn enwedig Mulhacén (3478 m.) a Veleta (3392 m.). Yr afon bwysicaf yw'r Guadalquivir.
Prif ddinasoedd Andalucía yw Sevilla, Málaga, Cádiz, Almería, Córdoba, Jaén, Huelva a Granada. Mae'n enwog am ddawns y flamenco ac am bensaernïaeth wych o'r cyfnod Islamaidd, yn enwedig yr Alhambra byd-enwog yn Granada.