From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwasanaeth Nadolig traddodiadol wedi'i gynnal yn fore ydy'r plygain neu'r blygain. Daw unigolion, deuawdau, grwpiau a theuluoedd ymlaen i du blaen yr eglwys i ganu carolau'r plygain. Rhwng tri a chwech y bore y cynhaliwyd y gwasanaeth fel arfer, er bod yr amseroedd, bellach, yn amrywio'n fawr. Yn draddodiadol, roedd canhwyllau'n rhan bwysig, gyda gorymdaith yn aml o ganol y pentref i'r eglwys.[1] Mae'n dyddio nôl i'r adeg cyn y diwygiad Protestanaidd yn y 16g gydag elfennau llawer hŷn na hynny.
Cred rhai y daw'r gair 'plygain' o'r gair Lladin pullicantiō[2], sef 'ar ganiad y ceiliog'; cred eraill mai o'r gair 'plygu' y daw. Fe'i ceir hefyd yn y Llydaweg fel pellgent. Mae sawl amrywiad ar y gair: pylgen, pilgen, plygan, plygen a.y.y.b, a gall fod yn enw gwrywaidd neu fenywaidd mewn gwahanol rannau o'r wlad. Ceir enghraifft o'r gair mewn llawysgrifau Cymraeg mor gynnar a'r 13g ('pader na pilgeint na gosber'); y gair Llydaweg am Siôn Corn ydy Tad-kozh ar pellgent ("Tad-cu y plygain").
Mewn rhai mannau, arferai'r bobl wneud cyflaith i ddisgwyl yr amser cychwyn. Gwyddys i hyn ddigwydd ym Marford, Sir y Fflint er enghraifft. Roedd yr oriau hyn cyn y plygain, ac felly'n rhai cymdeithasol iawn. Ceir cofnod mai gwneud cyflaith a threulio'r noson yn addurno'r tai â chelyn ac uchelwydd oedd y traddodiad ym Marford, Sir Fflint, yn y 1830au. Ac yn nyddiadur Mrs. Thrale o daith yn 1774 cynheuai pobl Dyffryn Clwyd eu goleuadau am ddau y bore, a chanu a dawnsio i'r delyn tan y plygain.
Hyd at y 19g, anaml iawn y cynhelid gwasanaethau eglwys yn y nos, gan nad oedd hi'n hawdd goleo'r eglwys; ond roedd y plygain yn eithriad. Er mwyn cael golau, arferai'r trigolion gario eu cannwyll neu lamp i'r eglwys. Daeth hyn yn rhan bwysig o'r ŵyl; yn Nolgellau, er enghraifft, gwisgwyd y canhwyllau â chelyn ac yn Llanfyllin cynheuwyd cannoed o ganhwyllau wedi'u gosod fodfeddi ar wahân. Arferid addurno'r canhwyllau hyn, ac yn Llanfyllin, goleuwyd yr adeilad gan gannoedd o ganhwyllau, wedi eu lleoli fodfeddi ar wahân. Ym Maentwrog, Sir Feirionnydd, yr oedd canhwyllau hefyd "wedi eu gosod mewn tyllau ymhen polion neu byst ysgafn a sicrheid wrth gôr yma ac acw yn yr adeilad." [1]
Yn Llanfair Dyffryn Clwyd ger Rhuthun yn 1774, gwyddys i'r trigolion lleol gynnau cynhwyllau, dawnsio a chanu wrth gerdded i'r plygain. Cafwyd gorymdeithiau i'r eglwys o ganol y dref neu'r pentref, hefyd, yn Ninbych-y-pysgod, Talacharn a Llanfyllin. Cynheuwyd ffaglau a hebryngwyd y rheithor lleol ar flaen yr orymdaith yn aml a'r llanciau'n chwythu cyrn.
Dywed J. Lloyd Williams (1854‑1945) am blygain Eglwys Sant Doged yn Llanddoged ger Llanrwst: "Er bod y clochydd yn gofalu am ganhwyllau, byddai rhai o’r cantorion yn mynd â’u canhwyllau eu hunain i’r gwasanaethau, er mwyn cael digon o olau i weld y copïau ysgrifen y canent oddi arnynt; ac i ddal y canhwyllau gofelid am fynd â digon o glai yn lle canwyllbrennau."[3]
Yn ôl Gwynfryn Richards, gellir canfod yn yr arferion hyn o oleuo canhwyllau ar y Nadolig y symbol o ddyfodiad 'Goleuni'r Byd'.
Dyma ddisgrifiad William Payne o blygain Dolgellau tuag 1850[4]
Yn awr y mae'r eglwys yn wenfflam; yn awr o dan ei sang, gorff, ystlysau, oriel; yn awr wele Siôn Robert, y crydd troed-gam, a'i wraig, gan ddod i lawr o'r sedd ganu i ran isaf a blaenaf yr oriel, yn taro bob yn ail y garol hirfaith a'r hen ffefryn yn disgrifio Addoliad y Brenhinoedd a'r Doethion, a'r Ffoad i'r Aifft, ac anfadrwydd ofnadwy Herod. Hollol ddistaw yw'r tyrfaoedd ac wedi ymgolli mewn edmygedd.... A'r gweddiau trosodd, cychwynna'r cantorion eto ragor o garolau, cantorion newydd, hen garolau mewn unawdau, deuawdau, triawdau, cytganau, yna distawrwydd yn y gynulleidfa, wedi ei dorri ar seibiau priodol gan rwystrus furmur yr hyfrydwch a'r gymeradwyaeth, nes rhwng wyth a naw, a newyn yn dweud ar y cantorion, y mae'r Plygain drosodd a thery'r Clych ganiad llawn.
Ym Maentwrog roedd hi'n arferiad i'r rheithor bregethu am gyfnod byr ac yn Llanfair Dyffryn Clwyd, roedd y Cymun Bendigaid yn cael ei weinyddu.
Ychydig iawn o siarad sydd mewn gwasanaeth y plygain, sy'n para oddeutu dwyawr. Fel arfer ceir oddeutu deudded o bartion yn cymryd eu tro i godi o'r gynulledifa a cherdded i'r sedd fawr, heb fod neb yn eu galw ymlaen, heb gyflwyniad o gwbl i'r caneuon - ac yn debyg yn hyn o beth i wasanaeth y Crynnwyr. Wedi ysbaid yn y canol, lle gwneir y casgliad mewn rhai llefydd, ceir ail ran, a deai'r partion ymlaen yn yr un drefn i ganu eu hail ddewis a phob cân yn wahanol, gan ei bod yn egwyddor osgoi ailganu unrhyw garol, a'r cwbl yn Gymraeg.
Ar ôl y rownd olaf bydd pawb sydd wedi cymryd rhan yn y gwasanaeth yn dod i flaen yr eglwys i ganu Carol y Swper.
Fel arfer mae'r caneuon Plygain mewn cynghanedd o dri neu bedwar llais, er bod unawdau a deuawdau wedi bodoli erioed. Yn wreiddiol partion o ddynion yn unig oedd yn cymryd rhan ac roedd y cantorion yn dod o'r un teulu. Roedd aelod o'r teulu'n ysgrifennu’r geiriau mewn llyfr ymarfer a ddefnyddiwyd hefyd yn y gwasanaeth gan fod cymaint o benillion. Yn aml roedd yr alwad yn cael ei benthyg oddi wrth gân gwerin boblogaidd. Fel arfer crybwyllir croeshoelio Crist yn y garol blygain. Ymhlith y beirdd enwog am ysgrifennu llawer o garolau plygain mae Huw Morus (Eos Ceiriog), Jonathan Huws a Walter Davies (Gwallter Mechain).[5] Mae brawddegu'n bwysig ac yn aml mae'r cantorion yn dal ar rai geiriau pwysig. Cenir y caneuon i gyd yn ddigyfeiliant.
Roedd y traddodiad o ganu carolau yn gryf trwy bob rhan o Ogledd a Chanolbarth Cymru ganrif yn ôl. Heddiw, fodd bynnag, mae'r traddodiad ar ei gryfaf yn ardaloedd Mallwyd, Llanerfyl, Cefnyblodwel a Llangynog.
Yn 2015/6 cafwyd 47 o wasanaethau plygain traddodiadol yn y mannau hyn:
Lleoliad | Noswaith | Dyddiad | Amser |
---|---|---|---|
Capel Bowydd, Bl Ffestiniog | Sul | 26/11/17 | 19.00 |
Llansilin | Gwener | 01/12/17 | 19.30 |
Eglwys Llanafan | Sul | 03/12/17 | 17.00 |
Llanbedr PS | Llun | 04/12/17 | 19.00 |
Capel Annibynwyr y Bala (Cyfundeb Meirion) | Mawrth | 05/12/17 | 19.30 |
Penygraig, Caerfyrddin | Sul | 10/12/17 | 18.30 |
Trallwm | Mawrth | 12/12/17 | 19.00 |
Llanidloes (China St) | Gwener | 15/12/17 | 19.00 |
Briw | Sul | 17/12/17 | 18.30 |
Penuel, Llangynyw (Neuadd Pontrobert) | Sul | 17/12/17 | 18.30 |
Parc | Mawrth | 19/12/17 | 19.00 |
Morlan, Aberystwyth | Mercher | 20/12/17 | 19.30 |
Llanfair Dyffryn Clwyd | Iau | 21/12/17 | 19.00 |
Penrhyn-coch | Iau | 21/12/17 | 19.00 |
Capel Towyn, Ceinewydd | Sul | 24/12/17 | 19.30 |
Yr Hen Gapel, Pontrobert | Llun | 25/12/17 | 6.00 |
Llanllyfni | Llun | 25/12/17 | 7.00 |
Lloc | Llun | 25/12/17 | 6.00 |
Llanarmon DC | Mercher | 27/12/17 | 19.00 |
Cefnblodwel | Gwener | 29/12/17 | 19.00 |
Nantgaredig (M.C.) | Sul | 31/12/17 | 18.00 |
Abergynolwyn | Iau | 04/01/18 | 19 |
Dinas Mawddwy (Ebeneser) | Gwener | 05/01/18 | 19.00 |
Llanerfyl | Sul | 07/01/18 | 19.00 |
Llanrhaeadr ym Mochnant | Sul | 07/01/18 | 19.00 |
Bethesda, Yr Wyddgrug | Sul | 07/01/18 | 19.00 |
Llanddarog (St Twrog) | Sul | 07/01/18 | 17.00 |
Capel Saron, Cwm Wysg | Sul | 07/01/18 | 16.00 |
Capel Jewin Llundain | Sul | 07/01/18 | 17.00 |
Eglwys Sant Teilo San Ffagan | Sul | 07/01/18 | 14.00 |
Darowen | Llun | 08/01/18 | 19.00 |
Llanfair, ger Harlech | Mercher | 10/01/18 | 19.00 |
Mallwyd | Gwener | 12/01/18 | 19.00 |
Ceri | Sadwrn | 13/01/18 | 7.00 |
Llanfihangel | Sul | 14/01/18 | 18.30 |
Llanwnda, Caernarfon | Sul | 14/01/18 | ?? |
Llanrwst, ST crwst | Iau | 18/01/17 | 19.00 |
Cadeirlan Bangor | Gwener | 19/01/18 | ?? |
Llanuwchllyn | Sul | 21/01/18 | 19.00 |
Llanelwy | Gwener | 26/01/18 | 19.15 |
Llandeilo | Sul | 28/01/18 | 18.00 |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.