ffilm antur gan Derek W. Hayes a gyhoeddwyd yn 2003 From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffilm Gymraeg animeiddiedig oedd Y Mabinogi a ryddhawyd yn 2003. Comisiynwyd y ffilm gan S4C i ddathlu pen-blwydd y sianel yn ugain mlwydd oed. Dangoswyd y fersiwn Cymraeg mewn rhai sinemau yng Nghymru yn Tachwedd 2002.[1] Darlledwyd y ffilm ar S4C am y tro cyntaf ar 1 Mawrth 2004. Cyfarwyddwr y ffilm oedd Derek Hayes.
Teitl amgen | Otherworld |
---|---|
Cyfarwyddwr | Derek W. Hayes |
Cynhyrchydd | Naomi Jones |
Ysgrifennwr | Martin Lamb, Penelope Middleboe |
Serennu | Daniel Evans, Jenny Livsey, Matthew Rhys |
Cerddoriaeth | John Cale |
Golygydd | William Oswald |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Cartwn Cymru / S4C Rhyngwladol / Cyngor Celfyddydau Cymru / British Screen Productions / BSkyB |
Dyddiad rhyddhau | 2003 |
Amser rhedeg | 90 munud |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg (gwreiddiol); Saesneg |
Ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn ddeunaw oed, caiff byd Lleu ei chwalu gyda’r newyddion ei fod wedi ei fabwysiadu. Ar yr un diwrnod, mae ei ffrind Rhiannon yn amau ei bod yn feichiog, ac mae Dan, sy’n byw yng nghysgod ei frawd mawr, yr un mor chwit chwat ag erioed.
Er gwaethaf eu problemau personol mae’r tri yn dod at ei gilydd ar ben-blwydd Lleu, ac yn cychwyn ar anturiaeth mewn cwch bysgota fychan. Ymhen ychydig maent yn gweld rhyw newid yn y dwr, ac maent yn sylweddoli eu bod, ar noswyl Gŵyl Fai, wedi dod o hyd i borth aur y Byd Arall, sydd i’w weld yn disgleirio ymhell o dan y don.
A hithau yn ferch annibynnol a phenstiff, dydy Rhiannon ddim yn meddwl ddwywaith cyn plymio i’r môr mawr, a dydy’r ddau arall ddim yn hir yn ei dilyn. Fel y maent yn plymio yn is ac yn is i’r dyfnderoedd ac yn nesàu at y porth, fe gânt eu cludo ganrifoedd yn ôl i fyd anhygoel y Mabinogi.
Ond mae gan Rhiannon, Manawydan a Lleu Llaw Gyffes eu problemau Canol Oesol eu hunain. Mae Rhiannon yn cael ei gorfodi i briodi rhywun nad yw’n ei garu, mae Manawydan yn ceisio gwneud iawn am gynllwynio mileinig brawd byrbwyll ac mae Lleu yn ceisio dygymod â'r ffaith i’w fam ei wrthod fel baban.
Wrth geisio goresgyn y problemau hyn rhaid i’r cymeriadau wynebu’r gwrthdaro rhwng ffawd, dewis personol a hud a lledrith.
Tystysgrif ffilm: 12A
Fformat saethu: 35mm
Lliw: Lliw
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.