Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwladwriaeth yn Nwyrain Ewrop a Gogledd Asia oedd Tsaraeth Rwsia neu Tsaraeth Mysgofi a fodolai o 1547 hyd at sefydlu Ymerodraeth Rwsia ym 1721. Ifan IV (Ifan yr Ofnadwy), Uchel Dywysog Moscfa a Sofran Rwsia Oll ers 1533, oedd y cyntaf i ddwyn y teitl "tsar"—a darddir o "Cesar"—gan felly dyrchafu Uchel Dywysogaeth Moscfa yn Tsaraeth Rwsia ym 1547.[1]
Math | gwlad ar un adeg |
---|---|
Prifddinas | Moscfa, St Petersburg |
Poblogaeth | 6,000,000, 7,000,000, 11,000,000 |
Sefydlwyd | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Church Slavonic, Rwseg |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Tsaraeth Rwsia |
Arwynebedd | 3,000,000 km², 14,500,000 km², 14,500,000 km² |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Zemsky Sobor |
Arian | Rŵbl |
Ar y cychwyn, bu'r tsaraeth yn cynnwys y rhan helaethaf o ogledd a chanolbarth Rwsia Ewropeaidd, a rhywfaint o diriogaeth a leolir heddiw yn y Ffindir, Belarws, ac Wcráin. Wedi ei goroniad ym 1547, aeth Ifan IV ati i atgyfnerthu a chanoli ei rym: lluniodd gyfreithiau newydd y Sudebnik ym 1550; sefydlodd y Zemsky Sobor, y senedd gyntaf yn hanes Rwsia, i gynrychioli dosbarthiadau'r drefn ffiwdal; cwtogodd ar rym y glerigiaeth Uniongred; a chyflwynodd elfen o hunanreolaeth leol yng nghefn gwlad.[2] Teyrnasai Ifan IV hyd at 1584, gan lwyddo i orchfygu tair o'r chaniaethau a olynodd y Llu Euraid—Kazan, Astrakhan, a Siberia—gan bron ddyblygu tiriogaeth Rwsia a'i throi'n bŵer trawsgyfandirol yn Ewrasia.[2][3] Erbyn marwolaeth Fyodor I ac felly diwedd brenhinllin y Rurik ym 1598, ehangodd y tsaraeth i'r dwyrain y tu hwnt i Fynyddoedd yr Wral ac i'r de hyd at Fôr Caspia. Erbyn diwedd yr 16g, Chaniaeth y Crimea oedd y cilcyn olaf o diriogaeth Dataraidd i orllewin Mynyddoedd yr Wral a oedd yn dal i wrthsefyll tra-arglwyddiaeth y Rwsiaid.[4]
Erbyn i Pedr I (Pedr Fawr) esgyn i'r orsedd ym 1689, estynnai'r tsaraeth dros Siberia oll, ac eithrio Gorynys Kamchatka. Ym 1721, datganodd Pedr I ei hunan yn Ymerawdwr Rwsia oll, gan droi'r tsaraeth yn ymerodraeth.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.