Ifan IV, tsar Rwsia

From Wikipedia, the free encyclopedia

Ifan IV, tsar Rwsia

Tywysog Mawr Moscfa ac wedyn tsar Rwsia oedd Ifan IV Vasilyevich (25 Awst 1530 - 18 Mawrth 1584).[1] Fe oedd teyrn cyntaf Rwsia i ddefnyddio'r teitl tsar. Cyfeirir ato yn aml gyda'i lysenw, Ifan yr Ofnadwy (Rwsieg Ива́н Гро́зный / Ivan Grozny).

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Ifan IV, tsar Rwsia
Thumb
GanwydИван Васильевич 
25 Awst 1530, 15 Awst 1530 
Kolomenskoye 
Bu farw18 Mawrth 1584 (yn y Calendr Iwliaidd) 
Moscfa 
DinasyddiaethUchel Ddugiaeth Moscfa, Tsaraeth Rwsia 
Galwedigaethgwleidydd, raspevschik 
SwyddTsar of All Russia, Sovereign of all Russia 
TadVasili III of Moscow 
MamElena Glinskaya 
PriodAnastasia Romanovna, Maria Temryukovna, Marfa Sobakina, Anna Koltovskaya, Maria Dolgorukaya, Anna Vasilchikova, Vasilisa Melentyeva, Maria Nagaya 
PlantDmitry Ivanovich of Russia, Tsarevich Ivan Ivanovich of Russia, Fyodor I, tsar Rwsia, Dmitry of Uglich, Anna Ivanovna of Russia, Vasily Ivanovich 
LlinachRurik dynasty 
Cau
Thumb
Ifan IV, 'yr Ofnadwy'.

Hanes

Ganed Ifan yng Ngholomenskoye, Moscfa, yn 1530. Roedd yn unig fab i Fasili III a'i wraig Yelena Glinskaya. Bu farw ei dad yn 1533, ac yntau'n dair blwydd oed. Yn ei blentyndod cynnar, gweithredodd ei fam fel rhaglaw, ond bu farw hithau pan oedd Ifan yn wyth mlwydd oed. O hyn ymlaen, cafodd y wlad ei rheoli gan boyariaid (pendefigion), a'r teulu Shuysky yn bennaf yn eu plith, tan i Ifan gymryd yr awenau ym 1544. Teimlai Ifan i'r boyariaid ei esgeuluso a'i ddiystyru yn ystod ei blentyndod, ac mae'n bosib i'w brofion yr adeg honno fod wedi cyfrannu at ansefydlogrwydd ei feddwl yn ddiweddarach yn ei oes.

Coronwyd Ifan yn tsar yn un-ar-bymtheg oed ar 16 Ionawr 1547. Roedd ei deyrnasiad cynnar yn amser heddychlon o foderneiddio – sefydlodd fyddin barhaol, diwygiodd y côd cyfreithiol, a sefydlodd y Zemsky Sobor, cyngor y bendefigaeth. Gwelwyd y wasg argraffu gyntaf yn Rwsia yn yr amser hon. Agorodd Ifan y Môr Gwyn a phorthladd Archangelsk i fasnachwyr Seisnig gan greu cysylltiadau masnachol newydd. Cryfhaodd rym gwladwriaeth ganolog Rwsia, ac ehangodd ei ffiniau, gan ychwanegu Kazan (1552) ac Astrakhan (1558) i'w deyrnas. Er mwyn dathlu ei fuddugoliaeth yn erbyn Khanaeth Kazan, gorchmynodd adeiladu Eglwys Gadeiriol Sant Basil ym Moscfa, a gafodd ei chwplhau yn 1561.

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.