Y Llu Euraid
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gwladwriaeth Dyrco-Fongolaidd a ddatblygodd o diriogaeth orllewinol yr Ymerodraeth Fongolaidd oedd y Llu Euraid, Chaniaeth Kipchak, neu Ulus Juchi a fodolai o'r 1240au i 1502. Ar ei hanterth, ymestynnai tiriogaeth y Llu Euraid o Fynyddoedd Carpathia yn Nwyrain Ewrop hyd at stepdiroedd Siberia yn y dwyrain. Yn y de, ffiniodd y Llu Euraid â'r Môr Du, Mynyddoedd y Cawcasws, a'r Ilchaniaeth (un arall o wladwriaethau olynol yr Ymerodraeth Fongolaidd).
Chan cyntaf y Llu Euraid oedd Batu (teyrnasodd 1240–55), un o ŵyr Genghis Khan, a lansiodd sawl ymgyrch fuddugoliaethus i estyn gororau gorllewinol gan gynnwys cipio tiroedd y Bolgariaid yn y Volga ym 1236 a gorchfygiad Rws Kiefaidd ym 1240. Sefydlodd Batu ei brifddinas, Sarai Batu, ger Akhtuba, un o lednentydd deheuol Afon Volga, yn y 1240au, a leolir heddiw yn Oblast Astrakhan. Yn ddiweddarach, symudwyd y brifddinas i fyny'r afon, i Sarai Berke, a fyddai ar ei hanterth yn cynnal poblogaeth o ryw 600,000. Mongolwyr oedd yr uchelwyr, gan fwyaf, a chawsant eu Tyrceiddio a'u troi at Islam, yn enwedig dan y Chan Öz Beg (t. 1313–41). Byddai'r llwythau Tyrcig yn hwsmona ar y stepdiroedd, a gorfodwyd i'r bobloedd ddarostyngedig—Slafiaid Dwyreiniol, Mordfiniaid, Groegiaid, Georgiaid, ac Armeniaid—dalu teyrnged i'r chaniaeth.
Dirywiodd y Llu Euraid yn ail hanner y 14g, yn sgil y Pla Du (1346–47) a bradlofruddiaeth y Chan Tini Beg (t. 1341–42). Bu tywysogaethau'r Rwsiaid yn drech na'r Llu Euraid ym Mrwydr Kulikovo (1380), gan herio tra-arglwyddiaeth y Mongolwyr. Dygwyd cyrch ar Foscfa ym 1382 gan y Chan Tokhtamysh (t. 1380–97) i dalu'r pwyth yn ôl ac i orchfygu'r Rwsiaid unwaith eto, ond hwn oedd buddugoliaeth fawr olaf y Llu Euraid. Cafodd Tokhtamysh ei drechu yn ei dro gan Timur, a oresgynnodd tiriogaeth y Llu Euraid ym 1395, gan ddinistrio Sarai Berke ac alltudio'r mwyafrif o grefftwyr medrus yr ardal i Ganolbarth Asia. Yn y 15g, dechreuai'r Llu Euraid ymddatod yn sawl chaniaeth lai, gan gynnwys y Crimea, Astrakhan, a Kazan. Gorchfygwyd y cilcyn olaf o diriogaeth y Llu Euraid gan Chaniaeth y Crimea ym 1502.[1]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads