Tesla (cwmni ceir)

From Wikipedia, the free encyclopedia

Tesla (cwmni ceir)

Cwmni ceir cyhoeddus yng Nghaliffornia sy'n cynhyrchu cerbydau trydan a dyfeisiadau storio ynni (ee Powerwall) yw Tesla (enw gwreiddiol: Tesla Motors, Inc.). Mae'r cwmni'n masnachu ar farchnad stoc NASDAQ dan y symbol TSLA. Sefydlwyd y cwmni yn 2003 yn San Carlos, Califfornia gan Elon Musk, Martin Eberhard, Marc Tarpenning, JB Straubel ac Ian Wright a phrynwyd hen ffatri Toyota a General Motors yn San Francisco yn 2010. Erbyn haf 2012 roedd y Model S ar werth. Dechreuodd y cwmni wneud elw yn 2013.[1]

Ffeithiau sydyn Math, ISIN ...
Tesla Motors
Math
cynhyrchydd cerbydau
ISINUS88160R1014
Diwydiantdiwydiant ceir, diwydiant solar, diwydiant batri
Sefydlwyd1 Gorffennaf 2003
SefydlyddMartin Eberhard, Marc Tarpenning
CadeiryddElon Musk
PencadlysAustin
Pobl allweddol
Elon Musk (Prif Weithredwr)
Cynnyrchunknown
Refeniw96,773,000,000 $ (UDA) (2023)
Incwm gweithredol
8,891,000,000 $ (UDA) (2023)
Cyfanswm yr asedau62,131,000,000 $ (UDA) (31 Rhagfyr 2021)
PerchnogionElon Musk (0.208), Baillie Gifford (0.076), Capital Group Companies (0.059), Larry Ellison (0.017), Elon Musk (0.265), Fidelity Investments (0.102), Baillie Gifford (0.082), T. Rowe Price (0.06009), Elon Musk (0.134), Fidelity Investments (0.136), T. Rowe Price (0.074)
Nifer a gyflogir
140,473 (31 Rhagfyr 2023)
Rhiant-gwmni
S&P 500, NASDAQ-100
Is gwmni/au
SolarCity
Lle ffurfioPalo Alto
Gwefanhttps://www.tesla.com/, https://www.tesla.com/de_de, https://www.tesla.com/fr_fr, https://www.tesla.com/nl_nl, https://www.tesla.com/fi_fi, http://teslamotors.com/ 
Cau
Thumb
Pencadlys Tesla yn Palo Alto, Califfornia

Y sbortscar Tesla Roadster oedd y car cyntaf (2010); hwn oedd y car cyflym trydan-llawn cyntaf yn y byd, yn cael ei bweru gan y batri lithiwm-ion.[2] Yna daeth Model S, a oedd hefyd yn drydan-llawn, gyda Model X yn ei ddilyn wrth ei sodlau.[3] Gwerthwyd dros 100,000 o unedau yn fyd-eang o'r Model S erbyn Rhagfyr 2015, tair mlynedd a hanner wedi iddo gael ei lansio.[4] Yr adeg hon, dyma'r ail gar plug-in a werthwyd mwyaf ohono ledled y byd, yn dilyn y Nissan Leaf.[4] Mae Tesla hefyd yn gwerthu cyfarpar gwefru batris ar gyfer y cartref a'r swyddfa, ac wedi gosod rhwydwaith o orsafoedd gwefru ar draws Gogledd America, Ewrop ac Asia.[5] Mae nhw'n cynnig gorsafoedd gwefru am ddim i siopau, tai bwyta ayb ar gyfer cerbydau eu cwsmeriaid.[6] Yn 2015 lansiwyd y Model X, gyda'i ddrysau nodweddiadol falcon wing.

Geirdarddiad

Thumb
Tesla Roadster 2.5

Enwyd Tesla Motors ar ôl peiriannydd trydanol a ffisegydd Nikola Tesla (Никола Тесла; 1856 – 1943) dyfeisydd a pheiriannydd o Serbia.[7] Cyfrannodd yn helaeth i ddatblygiadau'n ymwneud â systemau cerrynt trydanol (AC).

Trosolwg

Y cerbyd cyntaf i ddefnyddio batri lithiwm-ion oedd y Tesla Roadster, a'r cerbyd trydan cyntaf i fedru gyrru dros 200 milltir (320 km) ar un gwefriad.[8] Erbyn 2016 roedd Tesla wedi buddsoddi $5 biliwn mewn ffatri enfawr (y Gigafactory yn Nevada) a fydd yn dod a gostyngiad o 30% yn oriau/kw o fewn ychydig flynyddoedd. Maent hefyd yn datblygu technoleg y Batri lithiwm-ion gyda Panasonic yn bartner iddynt. Mae'r batri-becynau Powerwall a Powerpack yn rhan o'r cynlluniau hyn.

Rhwng 2008 a Mawrth 2012 roedd Tesla gwedi gwerthu 2,250 Roadster mewn 31 gwlad. Lansiwyd Model S ar 26 Mawrth 2009 ac yn Awst 2011, stopiodd y cwmni gymeryd archebion am y Roadster, yn yr UDA.

Yn Rhagfyr 2012 roedd y cwmni'n cyflogi bron i 3,000 o weithwyr llawn amser,[9] ac erbyn Ionawr 2014 cynyddodd y ffigwr hwn i 6,000.[10]

Hyd at 2016 roedd Tesla wedi blaeniaru'r tir yn eu defnydd o aliminiwm yn eu ceir, sydd 30% yn ysgafnach na phe defnyddid dur. Yn 2016, fodd bynnag, er mwyn cadw'r gost mor isel a phosib, cyhoeddwyd y byddai rhyw gymaint o ddur yn y ceir yn ogystal ag aliminiwm. Y car nesaf i ddod o felin y cwmni yw'r Model 3 - yn 2017 am bris o tua £27,000.

Modelau

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.