Cerbyd trydan batri

From Wikipedia, the free encyclopedia

Cerbyd trydan batri

Math o gerbyd trydan sy'n ddibynnol ar egni cemegol a storiwyd mewn batri trydan adnewyddadwy ydy cerbyd trydan batri. Defnyddir y byrfodd 'BEV' amdanynt mewn sawl iaith, byrfodd sy'n golygu battery electric vehicle. Maent yn defnyddio modur trydan a rheolydd trydan yn hytrach na pheiriant tanio mewnol sy'n ddibynnol ar betrol neu ddisl i'w yrru. Ceir hefyd gyfuniad o'r ddau dechnoleg - trydan / petrol a gelwir y math hwn yn gerbyd trydan heibrid.

Ffeithiau sydyn Math ...
Cerbyd trydan batri
Thumb
Mathelectric vehicle, zero-emissions vehicle, battery-powered device 
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cau
Thumb
Nissan Leaf, y cerbyd trydan mwyaf poblogaidd yn 2014, gyda dros 150,000 uned wedi'u gwerthu (erbyn Tachwedd 2014).

Ceir sawl math o gerbyd trydan batri gan gynnwys beics, cerbydau rheilffordd, bysiau, loriau, faniau llaeth a cheir. Rhwng lansio 'Nissan Leaf' yn Rhagfyr 2010 a Rhagfyr 2014 roedd dros 600,000 o gerbydau wedi'u gwerthu ledled y byd, gyda dros eu hanner yn geir.[1][2]

Er mwyn cynyddu'r hyd y daith ar un llond batri o bwer, defnyddir y brec i greu rhagor o drydan; mae siap y cerbyd hefyd yn rheoli ei effeithiolrwydd.

Ceir batri trydan gorau

Mai 2018[3]

Mae'r tabl canlynol yn dangos snapshot o'r sefyllfa fel ag yr oedd ym Mai 2018:

Rhagor o wybodaeth Safle, Gwneuthuriad ...
SafleGwneuthuriadPrisDelweddPeiriantModel cyflymaf
0-62 mya
Pellter
honedig
(milltiroedd)
Cryfder
y batri
gorau
Nifer
y drysau
(uchafswm)
1afTesla Model S£64,700-£126,90032.4 eil.300100 kw/awr4
AilBMW i3£34,070-£40,12526.9 eil.19033 kW/a5
3yddRenault Zoe£18,745
(+ les misol batri)
113.524841 kw/a5
4yddNissan Leaf£26,49017.9 eil.15030 kw/a5
5edVW E-Golf£32,730110.4 eil.18635.8 kw/a5
6edTesla Model X£70,500-£130,00042.9 eil295193+375 kw/a
=568
5
Cau

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.