System rhifolion Hindŵ-Arabaidd

From Wikipedia, the free encyclopedia

System rhifolion Hindŵ-Arabaidd

System o rifolion degol positif yw system rhifo Arabaidd neu system rif Hindŵ-Arabaidd;[1] hi yw'r system fwyaf cyffredin drwy'r byd, ar gyfer cynrychioli rhifau drwy symbolau e.e "7".[2] Defnyddid y gair Hindŵ gan yr Arabiaid (neu'r Persiaid) yr adeg honno am bobl o India. Cyrhaeddodd y system hon drwch poblogaeth gwledydd Prydain yn y 15g, ac ymhlith y rhai a geisiodd ei hamlygu roedd y Cymro o Sir Benfro Robert Recorde, yn ei lyfr The ground of artes, 1543. Cyn hynny, defnyddid y dull Rhufeinig.

Thumb
Ysgythriad o 'Fwrdd Cyfrifo Arabaidd' allan o lyfr y Cymro Robert Recorde (The ground of artes), 1543.
Thumb
Arwydd yn Abu Dhabi'n dangos rhifolion Arabeg Ddwyreiniol (top) ac Arabeg Gorllewinol (gwaelod).

Fe'i dyfeisiwyd gan fathemategwyr Indiaidd rhwng 1g a'r 4g a mabwysiadwyd y system gan fathemategwyr Arabaidd erbyn y 9g. Ystyrir llyfrau Muḥammad ibn Mūsā al-Khwārizmī yn aruthrol bwysig (Cyfrifo gyda Rhifau Hindŵ, c.825) ac Al-Kindi (Ar y Defnydd o Rifau Hindŵaidd, c.830). Ymledodd y system, yn ddiweddarach, i Ewrop ganoloesol.[3]

Mae'r system wedi'i seilio ar ddeg glyff (neu symbol) gwahanol - naw yn wreiddiol. Mae'r glyffs a ddefnyddir i gynrychioli'r system, mewn egwyddor, yn annibynnol ar y system ei hun. Mae'r glyffiau a ddefnyddir heddiw yn ddisgynyddion rhifolion Brahmi ac maent wedi rhannu'n amrywiol amrywiadau teipograffyddol ers yr Oesoedd Canol; heddiw, ceir 3 prif grwp. Caiff ei ystyried yn system o nodiant sy'n dibynnu ar leoliad y glyff.

Lleoliad y nodiant

Drwy ddefnyddio'r pwynt degol, llinell lorweddol (i nodi negydd) a marc i nodi fod y rhif yn parhau 'ad infinitum (yr 'arlinell', neu'r vinculum), gellir mynegi unrhyw rif gyda dim ond 13 symbol. Felly'r 13 yw: y deg digid, y pwynt degol, yr arlinell a dash i nodi rhi negatif.

Cymharu glyffiau

##########GwyddorGweler
0123456789Yr wyddor Ladin
〇/零Dwyrain AsiaRhifolion Tsieineaidd, Rhifolion Japaniaidd, Rhifolion Coreaidd
ο/ōΑʹΒʹΓʹΔʹΕʹϚʹΖʹΗʹΘʹGroeg FodernRhifolion Groegaidd
אבגדהוזחטHebraegRhifolion Hebraeg
DevanagariRhifolion Indiaidd
Gujarati
Gurmukhī
Tibeteg
Asameg / Bengali / SylhetegRhifolion Bengali-Asam
Kannada
Odia
Malayalam
TamilegRhifolion Tamil
Telugu
ChmeregRhifolion Chmer
ThaiegRhifolion Thai
Lao
Byrmaneg
٠١٢٣٤٥٦٧٨٩ArabegRhifolion Arabeg Ddwyreiniol
۰۱۲۳۴۵۶۷۸۹Perseg (Farsi) / Dari / Pashto
۰۱۲۳۴۵۶۷۸۹Wrdw / Shahmukhi

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.