Shane Williams

From Wikipedia, the free encyclopedia

Shane Williams

Chwaraewr Rygbi'r Undeb i dîm y Gweilch a chyn-chwaraewr rhyngwladol dros Gymru yw Shane Mark Williams (ganed 26 Chwefror 1977). Mae'n chwarae fel asgellwr fel rheol, ond gall chwarae fel mewnwr neu fel maswr.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...
Shane Williams
Thumb
Ganwyd26 Chwefror 1977 
Abertawe 
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig 
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb, pêl-droediwr 
Taldra170 centimetr 
Pwysau77 cilogram 
Gwobr/auMBE, World Rugby Men's Player of the Year 
Chwaraeon
Tîm/auY Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Gweilch, Clwb Rygbi Castell-nedd, Ricoh Black Rams Tokyo, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig 
SafleAsgellwr 
Gwlad chwaraeonCymru 
Cau

Ganed ef yn Abertawe, a bu'n chwarae rygbi i dîm Castell Nedd cyn ymuno a'r Gweilch. Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru mewn gêm yn erbyn yr Eidal yn 2000, pan sgoriodd gais.

Yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2005, roedd yn rhan o'r tîm Cymreig a gyflawnodd y Gamp Lawn, gan sgorio cais yr un yn erbyn yr Eidal, yr Alban a Lloegr. Dewiswyd ef i fynd i Seland Newydd gyda'r Llewod yr un flwyddyn. Sgoriodd bum cais mewn gêm yn erbyn Manawatu.

Yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2008, sgoriodd ddau gais yr un yn erbyn yr Alban a'r Eidal a chais yn erbyn Iwerddon; y cais yn erbyn Iwerddon oedd y 40fed iddo ei sgorio i Gymru, yn ei roi yn gydradd a Gareth Thomas fel y sgoriwr uchaf i Gymru. Yng ngêm olaf y bencampwriaeth, yn erbyn Ffrainc, sgoriodd gais arall i dorri'r record. Ar ddiwedd y gystadleuaeth, enwyd ef yn chwaraewr y bencampwriaeth.

Enillodd yr anrhydedd o fod yn Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru yn 2008. Daeth ei gais yn erbyn yr Alban yn gêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2009 a'i gyfanswm i 45 cais.

Cyhoeddodd Shane y byddai'n ymddeol ar ddiwedd cystadleuaeth Cwpan y Byd 2011. Sgoriodd dri cais yn y gystadleuaeth gan symyd y cyfanswm o nifer o geisiau a sgoriodd dros Gymru i 57. Dywedodd ei gyd-chwaraewr Jamie Roberts ei fod yn tybio mai Shane Williams oedd chwaraewr mwyaf cyffrous ei genhedlaeth.[1]

Mae Shane yn siarad Cymraeg yn rhugl ac mae wedi ymddangos mewn sawl rhaglen ar S4C, gan gynnwys Clwb Rygbi Shane.

Chwaraeodd ei gem olaf dros ei wlad yn erbyn Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm ar 3 Rhagfyr 2011. Sgoriodd ei 58fed cais dros Gymru yn eiliadau olaf y gem.

Ymunodd Shane Williams â thîm cyflwyno Y Clwb Rygbi Rhyngwladol ar S4C ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2012[2].

Record Pwyntiau

 Clwb

Rhagor o wybodaeth Tîm, Tymor ...
Tîm Tymor Gemau Ceisiau Trosiadau Gôl Gosb Gôl Adlam Cyfanswm Pwyntiau
Castell Nedd 1997-98 11 1 0 0 0 5
1998-99 26 15 1 0 0 77
1999-00 28 17 0 0 0 85
2000-01 30 15 39 59 0 332
2001-02 3 3 0 0 0 15
2002-03 31 20 0 0 0 100
Cyfanswm 129 71 40 59 0 612
Gweilch 2003-04 13 5 0 0 0 25
2004-05 21 10 0 0 0 50
2005-06 13 3 0 0 0 15
2006-07 21 14 0 1 0 73
2007-08 16 6 0 0 0 30
2008-09 18 9 0 1 0 49
2009-10 17 3 0 0 0 15
2010-11 8 3 0 0 0 15
2011-12 14 3 1 0 0 17
Cyfanswm 141 57 1 0 2 293
Mitsubishi Dynaboars 2012-15 10 6 0 0 0 30
Cyfanswm 368 123 1 0 2 974
Cau

Rhyngwladol

Rhagor o wybodaeth Tîm, Gemau ...
Tîm Gemau Ceisiau Cyfanswm Pwyntiau
Cymru 87 58 290
Gemau Llewod Prydain ac Iwerddon 7 6 30
Gemau Prawf Llewod Prydain ac Iwerddon 4 2 10
Cyfanswm 98 66 330
Cau

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.