From Wikipedia, the free encyclopedia
Prifddinas Iemen yw Sana'a, hefyd Sanaa neu Sana (Arabeg:صنعاء, aş-Şana`ā). Roedd y boblogaeth yn 2012 yn 1,937,451.
Sefydlwyd Sana'a yn y 3g, efallai ar safle hŷn. Yn ôl traddodiad, sefydlwyd y ddinas gan Sem, un o feibion Noa. Daeth yn brifddinas yr Himiaritiaid o 520) ymlaen, ac yn ystod y 6g bu Ymerodraeth Persia ac Ethiopia yn ymladd a'i gilydd i reoli'r ardal. Pan oedd yr Ethiopiaid yn meddiannu'r ardal, gyda chymorth yr Ymerawdwr Bysantaidd Justinianus I, adeiladwyd eglwys gadeiriol fawr, y fwyaf i'r de o Fôr y Canoldir. Yn 628 cipiwyd Iemen gan luoedd dilynwyr y proffwyd Muhammad.
Daeth Sana'a yn Swltaniaeth hunanlywodraethol dan yr Ymerodraeth Ottoman yn 1517. Tua diwedd y 19g, fe'i hymgorfforwyd yn yr ymerodraeth, gyda llai o hunanlywodraeth. Dynodwyd canol y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.