From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd o'r Alban yw Roger Mullin (ganwyd 12 Mawrth 1948) a oedd yn Aelod Seneddol dros Kirkcaldy a Cowdenbeath rhwng 2015 a 2017; mae'r etholaeth yn Fife. Roedd Roger Mullin yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.
Roger Mullin | |
Cyfnod yn y swydd 7 Mai 2015 – 8 Mehefin 2017 | |
Rhagflaenydd | Gordon Brown Y Blaid Lafur |
---|---|
Olynydd | Lesley Laird |
Geni | Yr Alban | 12 Mawrth 1948
Cenedligrwydd | Albanwr |
Etholaeth | Kirkcaldy a Cowdenbeath |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Priod | Barbara Mullin |
Alma mater | Prifysgol Caeredin |
Galwedigaeth | Gwleidydd |
Gwefan | http://www.snp.org/ |
Graddiodd ym Mhrifysgol Caeredin gyda gradd Meistr gydag Anrhydedd mewn Cymdeithaseg, yn 1977. Mae'n aelod o'r Institute of Personnel and Development ers 1988 ac mae ganddo Dystysgrif Uwch mewn Peirianneg Electoronig.[1]
Mae' Athro Prifysgol Anrhydeddus ym Mhrifysgol Sterling ble mae'n addysgu ôlraddegion. Mae ganddo hefyd golofn yn The Times Educational Supplement Scotland ac mae'n gweithio fel ymgynghorydd addysgol.[2]
Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[3][4] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Roger Mullin 27628 o bleidleisiau, sef 52.2% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 37.9 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 9,974 pleidlais.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.