Rhwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewrop
Corff er hyrwyddo ieithoedd lleiafrifiedig a diwladwriaeth Ewrop. Olynydd EBLUL. From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae’r Rhwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewrop (European Language Equality Network, ELEN) yn sefydliad anllywodraethol rhyngwladol sy’n weithgar ar lefel Ewropeaidd sy’n gweithio i warchod a hyrwyddo ieithoedd Ewropeaidd llai eu defnydd , hynny yw ieithoedd rhanbarthol, ieithoedd lleiafrifol, ieithoedd mewn perygl, ieithoedd cyd-swyddogol ac ieithoedd cenedlaethol cenhedloedd bychain. Mae gan ELEN 174 o aelod-sefydliadau yn cynrychioli 50 o ieithoedd mewn 25 gwladwriaeth. Mae pencadlys y sefydliad yn adeilad Ti ar Vro, 6 plasenn Gwirioù Mab-den, Karaez, Llydaw.[1]
Enghraifft o: | sefydliad anllywodraethol, sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2011 |
![]() | |
Rhagflaenydd | Biwro Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Llai eu Defnydd |
Ffurf gyfreithiol | international non-profit association |
Pencadlys | Karaez-Plougêr |
Rhanbarth | Penn-ar-Bed |
Gwefan | https://elen.ngo/ |

Hanes
Ffurfiwyd ELEN ar ôl cau EBLUL, Biwro Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Llai eu Defnydd, sefydliad anllywodraethol â nodau tebyg a sefydlwyd ym 1982 ac a gaeodd yn 2010.
Cenadaethau
Mae cenadaethau a gwaith y corff anllywodraethol yn perthyn i wahanol fathau o ymyrraeth:[2]
- gwaith lobïo wedi'i anelu at y prif sefydliadau rhyngwladol sy'n ymwneud ag amddiffyn hawliau dynol a chyfunol (Cenhedloedd Unedig, Cyngor Ewrop, yr Undeb Ewropeaidd).[3] Mae ELEN yn cyflwyno’i hun fel llais y lleiafrifoedd lleiaf clywadwy (megis Llydaweg, Basgeg, Ocsitaneg, a Chatalaneg), yn arbennig drwy ddod â galwadau i gyrff etholedig fel Senedd Ewrop. Mae’r corff anllywodraethol hefyd yn gweithredu ar lefel leol, er enghraifft drwy gymryd rhan yn yr ymgyrch genedlaethol o blaid cadarnhau’r Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Ieithoedd Lleiafrifol yn Ffrainc,[4] drwy mynd i'r Cenhedloedd Unedig ag adroddiad yn gresynu at gwedd llywodraeth Sbaen tuag at leiafrifoedd heblaw'r Sbaeneg,[5][6] a thrwy gysylltu ei hun â phryderon amddiffynwyr ieithoedd lleiafrifol am ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd.[7][8][9][10]
- cychwyn neu gymryd rhan mewn prosiectau monitro a gweithredu ar ieithoedd lleiafrifol.
Cyfrannodd ELEN yn arbennig at lansiad Protocol Gwarant Hawliau Ieithyddol Donostia,[11] sy’n rhestru mesurau pendant i sicrhau parch at hawliau ieithyddol yn Ewrop, yn ogystal â'r Prosiect Amrywiaeth Ieithyddol Digidol, prosiect ar gyfer creu a rhannu cynnwys digidol gan ddefnyddio ieithoedd lleiafrifol.[12]
ELEN a'r Gymraeg
Cynhaliwyd cynhadledd 2022 y corff yng Nghymru[13][14]. Mae ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith yn mynychu'r cynadleddau,[14][15][16] ac mae Mudiadau Dathlu'r Gymraeg, Rhieni Dros Addysg Gymraeg, Cwmni Iaith, a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant hefyd yn aelodau o ELEN.[17]
Gweler hefyd
Dolenni allanol
- Gwefan swyddogol ELEN
- @EuropeanLanguageEqualityNetwork safle ELEN ar Facebook
- @EUROLANG presenoldeb ar X
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.