Baneri Promenâd Aberystwyth
From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o nodweddion Promenâd Aberystwyth yw ei baneri o wledydd ac ieithoedd lleiafrifol. Maent yn cyhwfan yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf ac wedi dod yn un o nodweddion y dref.




Nodweddion
Mae'r baneri a chwifir yn cynnwys cenhedloedd nad sydd sy'n annibynnol a hefyd cymunedau ieithyddol lleiafrifol yn Ewrop. Ceir hefyd rhai gwledydd annibynnol megis Estonia, ond nad oedd yn annibynnol pan chwifiwyr y baneri am y tro cyntaf yn 1990.
Dewisir y baneri drwy awgrymiad gan Sefydliad Mercator, sefydliad sy'n arbenigo mewn hawliau ieithoedd lleifrifiedig Ewrop. Awgrymir y baneri i Gyngor Tref Aberystwyth.
Bu'r Promenâd yn chwifio baneri gwledydd Baner Estonia, Baner Latfia a Baner Lithwania ar adeg pan nad oeddynt yn annibynnol. Yn 2015 cafwyd penderfynodd Gyngor Tref Aberystwyth ail-lunio'r rhestr o faneri i'w chwifio ac fel cydnabyddiaeth o statws y gwledydd hynny fel rhai annibynnol penderfynwyd eu symud a rhoddwyd lle i gymunedau ieithyddol eraill.[1]
Y Baneri sy'n Cyhwfan

Y baneri sy'n cyhwfan yn 2018 oedd:
- Cymru
- Llydaw
- Cernyw
- Ynys Manaw
- Yr Alban
- Baner Fflandrys
- Baner Fryslân (Friesland)
- Baner y Sorbiaid
- Baner Casiwbia
- Baner y Sami
- Baner Corsica
- Baner Occistan
- Baner Sardinia
- Baner Friuli
- Baner Gwlad y Basg
- Baner Catalwnia
- Baner Galisia
- Baner Asturias
- Baner y Roma
- Baner yr Arabesh
Hanes

Sefydlwyd yr arfero chwifio'r baneri arbenig yma gan gynghorydd Plaid Cymru ar hen Cyngor Dosbarth Ceredigion a Chyngor Tref Aberystwyth, Gareth Butler. Bydd rhai ar lafar yn dal i alw'r baneri yn 'Baneri Butler'.[2]
Hynodrwydd
Er bod chwifio baneri rhyngwadol mewn llefydd cyhoeddus yn arfer cyffredin ar draws Ewrop, o bosib Aberystwyth yw'r unig dref sy'n chwifio baneri gwledydd di-wladwriaeth ac ieithoedd lleiafrifol Ewrop.
Fe chwifir baneri 'cenedl-wladwriaethau' sefydliedig, megis Ffrainc, Sbaen, Yr Eidal, Gwlad Belg ag ati, ar Promenâd y De, oddi tan i Gastell Aberystwyth.
Er bod rhai ar draws y blynyddoedd wedi cwestiynu chwifio baneri llai amlwg ym man canolog tref twristaidd fel Aberystwyth, gan neilltuo baneri trigolion mwy niferus sy'n ymweld â'r dref, mae'r baneri yn pahau i'w chwifio.
Dolenni
- Gwefan Cyngor Tref Aberystwyth
- Canolfan Mercator Archifwyd 2017-07-20 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.