Remove ads

Gorsaf radio BBC Cymru yw BBC Radio Cymru, sy'n darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae wedi bod yn darlledu rhaglenni radio yn Gymraeg ledled Cymru ers iddi ddarlledu gyntaf ar 3 Ionawr 1977. Pan gafodd ei sefydlu, hon oedd yr unig orsaf radio i ddarlledu ar donfedd FM yn unig. Erbyn hyn, mae hefyd yn darlledu ar radio digidol DAB, ar Freeview yng Nghymru, ar gebl digidol ac ar loeren drwy wledydd Prydain cyfan, ers 2005; fe'i darlledir hefyd dros y Rhyngrwyd ers Ionawr 2005 - i bedwar ban byd[2]. Mae'r rhaglenni'n cael eu cynhyrchu yn eu stiwdios yn Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Chaerfyrddin.

Ffeithiau sydyn Ardal Ddarlledu, Dyddiad Cychwyn ...
BBC Radio Cymru
Thumb
Ardal DdarlleduCymru
Dyddiad Cychwyn3 Ionawr 1977; 47 o flynyddoedd yn ôl (1977-01-03)
TonfeddFM: 92.4-96.8, 103.5-104.9,
DAB,
Freeview: 720 (yng Nghymru),
Sky Digital: 0154 (dros Prydain a Iwerddon),
Virgin Media: 936,
Ar-lein
PencadlysAberystwyth, Bangor, Caerdydd
Perchennog BBC Cymru
Gwefanbbc.co.uk/radiocymru/
Canran cynulleidfa2.7% (2017)[1]
Cau

Cychwynnodd yr orsaf 6.45am ddydd Llun gyda Geraint Jones yn cyflwyno'r gwasanaeth newydd. Gwyn Llewelyn oedd y llais nesaf i'w glywed, yn darllen bwletin newyddion pymtheg munud o hyd.[3] Yn dilyn hynny am 7am oedd y rhaglen frecwast Helo Bobol a gyflwynwyd gan Hywel Gwynfryn. Roedd bwletin newyddion eto am 7.45am.

Yn ystod y dydd mae'n darparu cymysgedd o raglenni gan gynnwys newyddion (yn rhaglenni Dros Frecwast, Dros Ginio a Post Prynhawn, ynghyd â bwletinau bob awr), sgwrs a cherddoriaeth, a rhaglenni dyddiol fel Aled Hughes, Bore Cothi, Ifan Evans a Tudur Owen.

Remove ads

Cyflwynwyr

Rhestr o gyflwynwyr cyfredol:

Ffeithiau sydyn Ardal Ddarlledu, Dyddiad Cychwyn ...
BBC Radio Cymru 2
Ardal DdarlleduCymru
Dyddiad Cychwyn29 Ionawr 2019; 5 o flynyddoedd yn ôl (2019-01-29)
Tonfedd
  • DAB: 12D MuxCo Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • DAB: 10D MuxCo Gogledd Cymru
  • DAB: 12D Now Digital De-ddwyrain Cymru
  • DAB: 12A Bauer Abertawe a De-orllewin Ccymru
  • DAB: 10D MuxCo Wrecsam, Caer a Lerpwl
  • Freesat: 718
  • Freesat: 735 (gweddill y DU)
  • Freeview: 721
  • Sky: 0136
  • Sky: 0153 (gweddill y DU)
  • Virgin Media: 913 (y DU cyfan)
PencadlysBangor, Caerdydd
Perchennog BBC Cymru
Gwefanbbc.co.uk/radiocymru2/
Cau
Remove ads

Radio Cymru 2

Ar ddydd Llun, 19 Medi 2016, lansiwyd ail wasanaeth radio, Radio Cymru Mwy am gyfnod arbrofol o dri mis yn y cyfnod yn arwain at ben-blwydd Radio Cymru yn 40 oed. Roedd yn cynnwys pump awr o raglenni adloniant a cherddoriaeth bob diwrnod o'r wythnos, a roedd ar gael ar DAB yn y de-Ddwyrain ac ar lein.

Chwe mis yn ddiweddarach cyhoeddodd BBC Cymru y byddai ail orsaf radio, Radio Cymru 2, yn cael eu lansio ar fore Llun, 29 Ionawr 2018.[4] I gychwyn roedd yn darparu sioe frecwast yn cynnwys cymysgedd o gerddoriaeth ac adloniant.[5] Mae'r orsaf ar gael drwy lwyfannau digidol - DAB, teledu digidol a BBC iPlayer Radio (a elwir bellach yn BBC Sounds). Yn Hydref 2017 cyhoeddwyd mai'r cyn-newyddiadurwr Dyfan Tudur fyddai'n arwain y gwasanaeth newydd.[6]

Yn Rhagfyr 2017 cadarnhawyd amserlen cyntaf yr orsaf:[7]

  • Dydd Llun i ddydd Iau, 6.30-8.30 – Caryl Parry Jones a Dafydd Du (Dafydd Meredydd)
  • Dydd Gwener, 6.30-8.30 – Huw Stephens
  • Dydd Sadwrn, 7.00-9.00 – Lisa Angharad
  • Dydd Sul, 8.00-10.00 - Lisa Gwilym

Gadawodd y gyflwynwraig boblogaidd, Caryl Parry Jones ei sioe brecwast i gyflwyno sioe hwyr ar Radio Cymru. Y cyflwynwyr ar newydd-wedd yr orsaf oedd: Rhydian Bowen Phillips, Lisa Gwilym a Dom James, oedd yn ymuno gyda thri cyflwynydd blaenorol, Lisa Angharad, Daniel Glyn, Mirain Iwerydd. Roedd y gwasanaeth newydd yn darlledu 07:00 a 11:00 o ddydd Llun i ddydd Iau, a 07:00 a 09:00, ac yna 11:00 a 13:00 ar ddydd Gwener.[8] Mae Radio Cymru 2 hefyd yn darlledu sylwebaethau pêl-droed ychwanegol ar nos Fawrth a nos Fercher ac ar brynhawn Sadwrn.

Ers ehangu amserlen yr orsaf, mae Radio Cymru 2 wedi newid ei pholisi cerddoriaeth i chwarae cyfran uwch o gerddoriaeth yn yr iaith Saesneg, o'i gymharu â'r rhestr chwarae ar y prif gwasanaeth.

Ymestyn Oriau

Ym mis Awst 2022 cyhoeddwyd cynlluniau i ymestyn oriau darlledu Radio Cymru 2 gyda rhagor o gyflwynwyr ac oriau yn ystod y bore. Cyhoeddodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhuanedd Richards bod "Radio Cymru 2 o 15 awr yr wythnos i dros 60 awr yr wythnos yn rhan o strategaeth uchelgeisiol BBC Cymru i sicrhau ein bod yn gallu rhoi dewis i siaradwyr Cymraeg."[9]

Ym mis Ionawr 2024 cyhoeddodd Ofcom y byddai Radio Cymru 2 yn cael caniatâd i fwrw 'mlaen gyda chynlluniau i ymestyn nifer yr oriau darlledu ar Radio Cymru 2. Daeth yr asesiad i'r casgliad y bydd cynlluniau'r BBC "yn debygol o sicrhau gwerth cyhoeddus ychwanegol i wrandawyr Cymraeg". Bydd rhaid i'r orsaf ddarparu bwletinau newyddion rheolaidd.[10] Lansiwyd yr amserlen newydd ar 4 Mawrth 2024, gyda 60 awr newydd o ddeunydd gwreiddiol. Mae nifer o raglenni yn cael eu cyd-ddarlledu ar y ddau orsaf.[11]

Cyflwynwyr

Rhestr o gyflwynwyr gyda sioeau ar Radio Cymru 2 yn unig:

  • Rhydian Bowen Phillips (07:00 – 10:00, brecwast Dydd Llun - Iau, ac Y Sioe Sadwrn)
  • Lisa Gwilym (10:00 – 14:00, Dydd Llun - Iau)
  • Lisa Angharad (07:00 – 09:00, brecwast Dydd Gwener)
  • Dom James (11:00 – 14:00, Dydd Gwener)
  • Daniel Glyn (7:00 – 09:00, brecwast Dydd Sadwrn)
  • Mirain Iwerydd (07:00 – 10:00, brecwast Dydd Sul)

Remove ads

Cyn-gyflwynwyr

Rhestr o gyflwynwyr o'r gorffennol:

Remove ads

Golygyddion yr orsaf

  • Meirion Edwards (1977 – )
  • Lyn T Davies ( – 1995)
  • Aled Glynne Davies (1995 – 2006)
  • Sian Gwynedd (Awst 2006 – Tachwedd 2011)
  • Lowri Rhys Davies (Ebrill 2012 – Gorffennaf 2013) (ymddiswyddodd am resymau teulol)[12]
  • Betsan Powys (1 Gorffennaf 2013 – Hydref 2018)[13]
  • Rhuanedd Richards (Hydref 2018 – Ebrill 2021)[14]
  • Dafydd Meredydd (Medi 2021 -)[15]

Niferoedd

Thumb
Gwrandawyr (cyrhaeddiad wythnosol) Radio Cymru at ddiwedd mis Medi (chwarter 3) 2015; Ffynhonnell: Statiaith. Tynnwyd llinell drwy’r gyfres i amlygu’r duedd ac mae’r ardal dywyll yn dangos cyfwng hyder 95% bras.

Rhwng 2002 a 2015 mae niferoedd y gwrandawyr wedi cwympo'n flynyddol: o uchafswm o 175,000 i oddeutu 104,000, yn ôl RAJAR, sy'n gyfrifol am fesur y niferoedd.[16] Yn flynyddol, ceisiwyd amddiffyn hyn; mynegodd golygydd BBC Radio Cymru yn 2014, Betsan Powys ei bod yn teimlo'n "aruthrol o siomedig, mae'n dipyn o glec" ac y byddai'n "gweithio'n galed i godi'r ffigyrau." Er hynny, gwelwyd cwymp arall, y flwyddyn ddilynol.[17]

Yn Awst 2015 dywedodd Robat Gruffudd, perchennog Gwasg y Lolfa wrth y cylchgrawn Barn: "Yn sgil cwynion o sawl cyfeiriad am natur rhaglenni Radio Cymru, gostyngiad sylweddol yn ddiweddar yn nifer y gwrandawyr, heb sôn am y toriad yn incwm breindal i gerddorion Cymraeg, onid creu ail donfedd yw’r ateb amlwg?"[18]

Yn Hydref 2015 cyhoeddwyd fod nifer y gwrandawyr i lawr 12,000 i 104,000 dros y chwarter cynt - ei lefel isaf erioed. Dros flwyddyn prin oedd y newid, i lawr mil yn unig o'r 105,000 a gofnodwyd yn yr un cyfnod yn 2014.[19]

Ers Medi 2022, mae gan Radio Cymru 131,000 o wrandawyr wythnosol, sef 2.9% o'r ganran gynulleidfa.

Remove ads

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.

Remove ads