Betsan Powys

newyddiadurwraig o Gymraes From Wikipedia, the free encyclopedia

Betsan Powys

Newyddiadurwraig Cymreig yw Betsan Powys (ganwyd Awst 1965),[1] sydd yn olygydd BBC Radio Cymru ar hyn o bryd.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...
Betsan Powys
Thumb
GanwydAwst 1965 
Caerdydd 
Dinasyddiaeth Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, blogiwr 
Cau

Bywyd cynnar

Ganwyd yng Nghaerdydd ond symudodd y teulu i Fangor pan ddaeth ei thad, y gweinidog a darlledwr R. Alun Evans, yn bennaeth y BBC yno.[2] Graddiodd mewn Almaeneg a Drama o Brifysgol Aberystwyth cyn gwneud MLitt yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.

Gyrfa

Ymunodd Powys â BBC Cymru fel newyddiadurwraig hyfforddedig ym 1989, cyn ymuno â'r ystafell newyddion yng Nghaerdydd fel gohebydd dwy-ieithog aml-gyfryngau. Symudodd i adrodd materion cyfoes ym 1994, gan adrodd fel gohebydd cudd.[3]

Dechreuodd Powys gyflwyno ar raglen Newyddion Cymraeg S4C, fel y prif ohebydd materion cyfoes Ewrop yn y gyfres Ewropa, ac ymunodd â Huw Edwards i gyflwyno rhaglenni arbennig yr etholiadau yn y Deyrnas Unedig. Daeth nôl o Lundain i Gaerdydd i weithio i BBC Cymru a magu ei phlant yn Gymraeg cyn ei phenodi'n Olygydd Gwleidyddol BBC Cymru yn 2006.[2]

Ar 1 Gorffennaf 2013, cychwynnodd Betsan ar ei swydd newydd fel Golygydd BBC Radio Cymru. Ar 12 Mehefin 2018 cyhoeddwyd y byddai'n gadael y gorfforaeth yn Hydref 2018.[4] Penodwyd ei olynydd, Rhuanedd Richards, y mis wedyn.[5]

Cychwynnodd fel cyflwynydd newydd Pawb a'i Farn ar 15 Gorffennaf 2020.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.