From Wikipedia, the free encyclopedia
Apêl elusennol flynyddol Prydeinig ydy Plant Mewn Angen ac fe'i drefnir gan y BBC. Pob bwyddyn ers 1980, mae'r BBC wedi neilltuo un noson o raglenni ar ei brif sianel, BBC 1, ar gyfer dangos digwyddiadau wedi'u hanelu at godi arian. Mae darllediad y BBC hefyd yn ymestyn ar draws sianeli cenedlaethol eraill a lleol y BBC. Cofrestrwyd Plant Mewn Angen fel elusen yn 1989, rhif yr elusen ydy 802052.
Dosberthir yr holl arian a gasglir gan Plant Mewn Agen i elusennau bychain plant.
Darlledwyd apêl cyntaf y BBC yn 1927, ar ffurf darllediad radio pum munud o hyd ar y radio ar ddiwrnod Nadolig. Cododd yr apêl £1,143, sy'n cyfateb i tua £27,150 erbyn heddiw. Crewyd y mascot, yr Arth Pudsey, gan Joanna Ball. Enwyd yr arth ar ôl ei thref enedigol, Pudsey, yng Ngorllewin Swydd Efrog, ble roedd ei thaid yn faer.[1]
Gelwyd yr apêl deledu cyntaf yn 1955, yn Children's Hour Christmas Appeal, cyflwynwyd y raglen gan Sooty a Harry Corbett. Darlledwyd yr apêl ar y Nadolig ar y teledu a'r radio hyd 1979 gyda sêr megis Terry Hall, Eamonn Andrews, Leslie Crowther a Michael Aspel yn cyflwyno. Yn ystod yr adeg hwnnw, codwyd cyfanswm o £625,836. Ymddangosodd Terry Wogan yn gyntaf ar yr apêl pum munud yn 1978, ac unwaith eto yn 1979.
Darlledwyd yr apêl ar ffurf telethon am y tro cyntaf yn 1980, gan i'r raglen bara noswaith gyfan, gyda'r bwriad o godi arian. Cyflwynwyd y rhaglen ar ei fformat newydd gan Terry Wogan, Sue Lawley a Esther Rantzen, a gwelodd gynydd mawr yn roddiannau'r gynulleidfa: codwyd £1 miliwn y flwyddyn honno. Ers hynny, mae'r fformat telethon wedi cael ei chadw gan dyfu i gyfuno darllediadau eraill ar y radio ac ar y wê.
Cymerodd apêl 2003 le ym mis Tachwedd, a chodwyd £15 miliwn ar y noson, £30 miliwn yn gyfan gwbl wedi i'r holl roddiannau gael eu casglu. Cyflwynwyd unwaith eto gan Terry Wogan, ac ymunodd Gaby Roslin gydag ef ar y sgrin. Yn 2004, cynhaliwyd yr apêl ar yr 19 Tachwedd a chyflwynwyd hi fel 25ed pen-blwydd Plant Mewn Angen. Codwyd £17m ar y noson. Cyflwynwyd apêl 2005 gan Terry Wogan, Fearne Cotton a Natasha Kaplinsky, gyda pherfformiadau arbennig gan David Tennant a Billie Piper, sêr Doctor Who. Curodd yr apêl gyfanswm y flwyddyn gynt o ychydig, gan godi £17,235,256.
Yn 2007, adroddwyd mai Terry Wogan oedd yr unig seren i dderbyn tâl am ei gyfranogaeth, gan iddo dderbyn tâl pob blwyddyn ers 1980 (£9,065 yn 2005). Er hyn, mae Wogan wedi dweud y byddai'n ddigon hapus i gyflwyno'r rhaglen am ddim, ac nad oedd erioed wedi gofyn am dâl. Datganodd y BBC nad oedd tâl erioed wedi cael ei drafod. Telir Wogan o goffau'r BBC, ac nid o arian yr apêl,[2] does dim record fod Wogan erioed wedi ad-dalu dim.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.