Terry Wogan

From Wikipedia, the free encyclopedia

Terry Wogan

Darlledwr ar radio-a-theledu o Iwerddon oedd Syr Michael Terence Wogan, KBE DL (3 Awst 193831 Ionawr 2016) sy'n fwy enwog fel Syr Terry Wogan neu Terry Wogan, a weithiodd i'r BBC yn y Deyrnas Unedig am y rhan fwyaf o'i yrfa. Roedd yn adnabyddus yn y DU ers diwedd y 1960au ac yn aml, cyfeirir ato fel un o "drysorau cenedlaethol" y Deyrnas Unedig

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Terry Wogan
Thumb
Ganwyd3 Awst 1938 
Limerick 
Bu farw31 Ionawr 2016 
o canser 
Taplow 
Label recordioPhilips Records 
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon, y Deyrnas Unedig 
Alma mater
  • Crescent College
  • Belvedere College 
Galwedigaethcyflwynydd radio, cyflwynydd teledu, narrator, game show host, hunangofiannydd 
Cyflogwr
  • BBC Radio 2
  • BBC 
PriodHelen Wogan 
Gwobr/auKBE, OBE 
Gwefanhttp://www.terrywogan.com 
Cau
Thumb
Terry Wogan

Cychwynnodd ei yrfa yn gweithio mewn banc. Yna daeth yn gyhoeddwr a darllenwr newyddion gyda Radio Eireann. Yn fuan symudodd i fyd adloniant ysgafn yn cyflwyno rhaglenni cwis ac adloniant ar sianel deledu RTE.[1]

Cafodd swyddi cyflwyno ar orsafoedd radio'r BBC yn y 1960au ac ymunodd a BBC Radio 1 yn 1969.Roedd efallai yn fwyaf adnabyddus am ei sioe radio ar Radio 2 y BBC, y sioe siarad Wogan, cyflwyno y telethon Plant Mewn Angen ac fel sylwebydd y BBC ar Gystadleuaeth Cân Eurovision o 1980 tan 2008.

Bywyd personol

Roedd yn briod a Helen ers Ebrill 1965. Roedd ganddynt pedwar o blant, yn cynnwys merch a bu farw yn blentyn. Bu farw Wogan yn 77 mlwydd oed wedi dioddef o ganser.

Bu farw ei wraig ar 4 Medi 2024 yn 88 mlwydd oed.[2]

Teledu

  • Blankety Blank (1979-1983)
  • Children in Need (1980-2015)
  • Wogan (1982–1992)
  • Points of View

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.