Remove ads
Teulu o weision neidr From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'n fwy na phosibl mai'r teulu yma o bryfaid, y Libellulidae (Cymraeg: teulu'r Picellwyr) ydy'r teulu mwyaf o weision neidr ar wyneb y Ddaear. Mae'n cynnwys yr isdeuluoedd: Corduliidae a'r Macromiidae yn ôl rhai, er bod cryn ddadlau am hyn gan naturiaethwyr. Hyd yn oed heb y ddau isdeulu hyn, mae'r teulu Libellulidae'n dal i gynnwys dros 1,000 o rywogaethau.
Libellulidae | |
---|---|
Pantala flavescens yn Dar es Salaam, Tansanïa. Tua 5cm. | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Odonata |
Is-urdd: | Epiprocta |
Inffra-urdd: | Anisoptera |
Teulu: | Corduliidae |
Isdeuluoedd | |
Cordulephyinae - Corduliinae - Gomphomacromiinae - Idionychinae - Idomacromiinae - Neophyinae |
Mae eu tiriogaeth yn ymestyn dros wyneb y Ddaear, fwy neu lai, ond ceir ambell un, fel Libellula angelina sy'n hynod o brin. Mae llawer o aelodau'r teulu hwn yn lliwgar eithriadol, neu gyda bandiau ar eu hadenydd. Mae'r genws cysylltiedig, Plathemis yn cynnwys y 'cynffonau gwynion'. Mae'r genws Celithemis yn cynnwys sawl rhywogaeth hynod o liwgar, a welir yn yr Unol Daleithiau. Lliwgar hefyd ydy'r rhywogaethau yn y genera Trithemis a Zenithoptera ac ymhlith y rhai mwyaf cyffredin y mae: Tramea a Pantala.
Mae'r picellwyr canlynol i'w cael yng ngwledydd Prydain:
Delwedd | Rhywogaeth | Enw Lladin | Gwledydd |
---|---|---|---|
Picellwr praff | Libellula depressa | Cymru Lloegr | |
Picellwr prin | Libellula fulva | Lloegr | |
Picellwr pedwar nod | Libellula quadrimaculata | yr Alban Cymru Lloegr | |
Picellwr tinddu | Orthetrum cancellatum | Cymru Lloegr | |
Picellwr cribog | Orthetrum coerulescens | yr Alban Cymru Lloegr | |
Gwäell scarlad | Crocothemis erythraea | ||
Gwäell ddu | Sympetrum danae | yr Alban Cymru Lloegr | |
Gwäell asgell aur [F] | Sympetrum flaveolum | ||
Gwäell wythien goch | Sympetrum fonscolombei | Lloegr | |
Gwäell rudd | Sympetrum sanguineum | Cymru Lloegr | |
Gwäell gyffredin [G] | Sympetrum striolatum | yr Alban Cymru Lloegr | |
Gwäell yr ucheldir [G] | Sympetrum nigrescens | yr Alban | |
Gwäell grwydrol | Sympetrum vulgatum | ||
Gwäell resog | Sympetrum pedemontanum | ||
Picellwr wynebwyn | Leucorrhinia dubia | yr Alban Cymru Lloegr | |
Picellwr wynebwyn mawr [H] | Leucorrhinia pectoralis | ||
Y gleider crwydrol [I] [J] | Pantala flavescens |
Mae Libelluidae yn cynnwys y genera canlynol:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.