cyfarwyddwr ffilm a chynhyrchydd a aned yn Flint, Michigan yn 1947 From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu o Gymro oedd Peter Merfyn Edwards (Hydref 1947 – 11 Medi 2016). Gweithiodd ar amryw o raglenni teledu a ffilmiau yn Gymraeg a Saesneg.
Peter Edwards | |
---|---|
Ganwyd | Hydref 1947 Y Fflint |
Bu farw | 12 Medi 2016 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr teledu, cynhyrchydd teledu, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm |
Ganwyd yn Y Fflint a fe'i magwyd yn Nghilcain, Sir y Fflint. Ei dad oedd yr actor ac awdur Meredith Edwards a'i fam oedd Daisy Clark. Aeth i Ysgol Ramadeg Alun yn yr Wyddgrug ac aeth i wneud gradd Drama/Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Hull. Bu'n byw yng Nghaerdydd ers canol y 1970au.[1]
Roedd yn briod gyda Delyth a roedd ganddynt ddau o blant. Bu farw yn ei gartref yn 68 oed.[2]
Cychwynnodd fel 'roadie' ar gyfer cwmni theatr Hull Truck Theatre cyn gweithio am flwyddyn fel athro drama ym Merthyr Tydfil. Yna ymunodd â BBC Cymru lle cyfarwyddodd rhaglenni cerddoriaeth pop a drama yn cynnwys Bowen a'i Bartner ar gyfer S4C. Cyfarwyddodd y ddrama arobryn Penyberth ar gyfer BBC Cymru yn 1985 cyn ymuno â thîm cychwynnol yr opera sebon EastEnders. Fe ffurfiodd ei gwmni cynhyrchu annibynnol Lluniau Lliw yn 1986, cwmni a gynhyrchodd nifer o raglenni drama i S4C yn yr 1980au a 1990au, yn cynnwys cyfresi Yr Heliwr, Mwy na Phapur Newydd, a'r ffilm Pum Cynnig i Gymro.
Bu hefyd yn bennaeth drama ac uwch-gynhyrchydd gyda ITV Cymru rhwng 1998 a 2009 a gweithiodd ar y ddrama Nuts and Bolts.[3] Roedd yn gynhyrchydd ar y cyd i'r ffilm A Way of Life (2004), a enillodd yr "Alfred Dunhill UK Film Talent Award" yng Ngwyl Ffilmiau Llundain 2004. Yn fwy diweddar cyd-sefydlodd y cwmni annibynnol Barefoot Rascals a gynhyrchodd nifer o raglenni adloniant ffeithiol ar gyfer ITV Cymru.[4]
Edwards oedd cadeirydd cyntaf Ffilm Cymru a bu'n gadeirydd ar TAC, y corff sy'n cynrychioli cynhyrchwyr annibynnol.[5][6]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.