From Wikipedia, the free encyclopedia
Arddull bensaernïol fodern yw Pensaernïaeth Friwtalaidd neu Briwtaliaeth (Saesneg: Brutalism neu Brutalist Architecture) oedd ar ei fwyaf poblogaidd yn Ewrop a'r Gorllewin dros gyfnod rhwng yr 1950au a'r 1980au. Daw'r enw ar yr arddull o'r term Ffrengig ar gyfer concrit amrwd, béton brut, sef y prif ddeunydd a ddefnyddiwyd ar gyfer y tu allan i'r adeiladau. Fodd bynnag, mae'r term a fathwyd yn Saesneg yn cyfleu agweddau cadarn, monolithig, hyd yn oed ymosodol yr arddull.
Syniadau'r pensaer Le Corbusier (1887–1965) oedd y rhai creiddiol i'r arddull, er nad oedd Le Corbusier ei hunan yn dueddol o ddefnyddio'r term i ddisgrifio ei adeiladau. Bathwyd y term Saesneg Brutalism gan y beirniad Reyner Banham. Roedd yr arddull yn gyffredin iawn ymysg prosiectau adeiladu cyhoeddus yn y D.U. rhwng yr 1960au a'r 1980au.
Ystyrir Unité d'Habitation de Marseille (Ffrangeg: Uned Dai) gan Le Corbusier yn un o'r enghreifftiau cynharaf o'r arddull. Bloc o fflatiau ar gyfer gweithwyr oedd hwn a gafodd ei gwblhau yn 1952. Yn ogystal a'r adeilad ei hun, dyluniodd Le Corbusier nifer o nodweddion mewnol gan gynnwys y gegin a'r dodrefn.[1]
Oherwydd bod eu cynllun yn osgoi addurniadau coeth a bod y dyluniadau'n manteisio ar ddeunyddiau a dulliau adeiladu newydd, roedd modd gwneud arbedion wrth adeiladu o gymharu ag arddulliadau mwy traddodiadol. Roedd y siapau syml, sgwar yn caniatau hefyd i greu darnau o'r adeiladau o flaenllaw a'u cludo i'r safle adeiladu; roedd hefyd yn bosib creu nifer fawr o adeiladu'n dilyn yr un cynllun. Golygodd hyn bod yr addull yn boblogaidd iawn ar gyfer adeiladau adeiladau cyhoeddus megis ysgolion, ysbytai, prifysgolion, swyddfeydd a thai cyngor. Yn y D.U., adeiladwyd nifer fawr o adeiladau yn yr arddull ledled y wlad yn ystod yr 1960au a'r 1970au fel ffordd cymharol rhad o ymateb i'r twf yn y boblogaeth a'r galw cynyddol am dai, ac i adnewyddu dinesi yn dilyn difrod yr Ail Ryfel Byd a chlirio slymiau yn ystod y 1950au.
Bu'r arddull yn araf yn ymsefydlu yn Nwyrain Ewrop, yn enwedig gan fod Josef Stalin yn anghymeradwyo pensaernīaeth fodern y Gorllewin ac yn hytrach yn arddel yr arddull a ddaeth i ddwyn ei enw ef, sef Pensaernīaeth Stalinaidd. Fodd bynnag, yn dilyn marwolaeth Stalin yn 1953 a diddymiad yr Academi Pensaernīaeth Sofietaidd gan ei olynydd Nikita Khrushchev yn 1955, cofleidiwyd Pensaernīaeth Friwtalaidd gan lywodraethau Sosialaidd dwyrain Ewrop. Mae enghreifftiau niferus o'r arddull i'w gweld ym mron i bob dinas o bwys yn Nwyrain Ewrop, gan gynnwys Berlin, Warsaw a Moscfa ymysg eraill.
Erbyn yr 1980au, cwympodd yr arddull allan o ffasiwn, gyda phrosiectau adeiladu newydd yn tueddu ffafrio ardduliau megis ôl-foderniaeth
Ymestyniad oedd Pensaernïaeth Friwtalaidd o nifer o syniadau oedd yn gyffredin mewn mathau cynharach o bensaernïaeth fodern, sef foderniaeth. Mae adeiladau briwtalaidd yn blaen, gyda phwyslais ar bwrpas ac ymarferoldeb yn hytrach nac ymddangosiad. Fodd bynnag, nid yw'n gywir dweud nad oedd ymddangosiad adeiladau briwtalaidd yn ystyriaeth i'r penseiri, ond yn hytrach bod eu golwg llym yn fwriadol. Yn hytrach nag addurdno manwl, defnyddir maint a siap adeilad i greu argraff. Oherwydd y pwyslais hyn ar bŵer a maint, mae adeiladau briwtalaidd yn aml yn enfawr ac mae'r adeiladau briwtalaidd mwyaf nodedig yn tueddu bod yn adeiladau cyhoeddus (ysbytai, canolfannau siopa ac ati) neu flociau o fflatiau yn hytrach na thai unigol, er y ceir nifer o enghreifftiau o dai unigol yn yr arddull hefyd.
Fel mae'r enw yn awgrymu, mae concrit amrwd yn ddeunydd cyffredin ar gyfer waliau allanol adeiladau briwtalaidd, a hyn yn bennaf sy'n eu gwahaniaethu o adeiladau mewn dulliau modernaidd eraill o'r un cyfnod, er enghraifft yr arddull ryngwladol lle ceir pwyslais ar wydr yn hytrach na choncrit. Fodd bynnag, cafodd rhai eu hadeiladu o ddeunyddiau eraill a wedyn eu gorchuddio â rendr neu gladin, fel arfer heb eu paentio, i greu effaith tebyg i goncrit amrwd. Defnyddir y term 'briwtaliaeth friciau' weithiau i ddisgrifio adeiladau sy'n cyfuno agweddau cadarn a llwm briwtaliaeth â defnydd helaeth o friciau yn lle, neu'n ogystal â concrit. Mae nifer o adeiladau briwtalaidd sy'n dal i gael eu defnyddio wedi eu hadnewyddu drwy gladin modern, lliwgar, er bod hyn yn aml yn groes i egwyddorion aesthetig gwreiddiol yr arddull.
Roedd agwedd wleidyddol Sosialaidd, democrataidd gan nifer o benseiri adnabyddus a oedd yn gweithio yn yr arddull, gan gynnwys Le Corbusier a'r penseiri Seisnig Alison a Peter Smithson. Roedd yr agwedd hyn yn enwedig o amlwg ymysg y prosiectau tai cyhoeddus niferus a adeiladwyd yn yr arddull, gyda'r syniad bod gan bawb a oedd yn byw ynddynt gartref unfath, a'u bod yn rhannu cyfleusterau cyhoeddus megis ystafelloedd golchi a gerddi. Gan nad oedd cydlyniad amlwg rhwng pensaernīaeth friwtalaidd â dulliau pensaernīol traddodiadol unrhyw wlad benodol, roedd elfen gynhwysol, fyd-eang i'r arddull, agwedd sydd wedi'i adlewyrchu yn yr enw ar arddull bensaernīol gwahanol sy'n gorgyffwrdd i raddau â'r arddull friwtalaidd, sef yr Arddull Ryngwladol.
Yng Nghymru fel yng ngweddill y D.U. roedd yr arddull yn nodweddiadaol o boblogaidd ar gyfer adeiladau cyhoeddus megis ysgolion, canolfannau dinesig, llyfrgelloedd, ysbytai ac ati. Mae'r adeiladau isod yn enghreifftiau nodedig neu nodweddiadol o'r arddull Friwtalaidd yng Nghymru.
Mae adeiladau Briwtalaidd yn aml yn cael eu beirniadu am eu golwg oer, ymosodol, anghroesawgar, ac yn destun beirniadaeth parhaus gan y wasg boblogaidd [2] a chan unigolion megis y Tywysog Siarl[3]. Disgrifir yr arddull yn aml fel pensaernīaeth dotalitaraidd[4], er mewn gwirionedd mae'r berthynas rhwng yr arddull a thotalitariaeth yn fwy cymhleth: roedd unbeniaid fel Hitler a Josef Stalin yn anghymeradwyo pensaernīaeth fodern ac roedd safbwynt gwleidyddol nifer o benseiri, fel y Smithsons, yn ddemocrataidd ac yn iwtopaidd.
Ers eu hadeiladu mae nifer o broblemau wedi dod i'r amlwg gydag adeiladu yn yr arddull, er mae annheg fyddai awgrymu bod pob un o'r problemau hyn yn dilyn yn uniongyrchol o'r aestheteg friwtalaidd. Er mwyn arbed costau wrth adeiladu adeiladau cyhoeddus, defnyddiwyd deunyddiau rhad a oedd yn dueddol o ddirywio wrth heneiddio, gan arwain at waethygu yn ymddangosiad yr adeilad. Gallai dyluniadau a deunyddiau diffygiol hyd yn oed arwain at drychinebau fel yn achos dymchwel Ronan Point yn 1968, lle bu farw menyw yn ffrwydrad nwy cymharol bach a achosddodd i ran sylweddol o floc o fflatiau dymchwel. Gan nad oedd rheoliadau iechyd a diogelwch y cyfnod pan adeiladwyd y rhan fwyaf o adeiladau briwtalaidd mor dynn ag yr ydynt heddiw, mae rhai materion yn gallu codi megis diffyg allanfeydd tân digonol. Mae asbestos yn broblem cyffredin iawn hefyd. Mewn hinsawdd gwlyb fel y D.U. mae concrit yn tueddu dadliwio a staenio dros amser, mae dur yn rhydu ac mae toeau fflat yn achosi i ddŵr gronni sy'n gallu arwain at ollwng dŵr i fewn i'r adeilad. Wrth ychwanegu'r problemau cynhenid hyn at ddiffyg cynnal a chadw digonol a phroblemau cymdeithasol megis graffiti, fandaliaeth a Dirywiad Dinesig, mae nifer o adeiladau briwtalaidd bellach mewn cyflwr truenus. Gan fod mwyafrif helaeth yr adeiladau'n perthyn i oes cyn ymwybyddiaeth eang o broblemau amgylchiadol, mae'r adeiladau'n aml yn aneffeithlon o ran ynni, nid yn unig o'u cymharu ag adeiladau mwy diweddar ond o'u cymharu ag adeilau hŷn. Mewn nifer o ystadau enfawr o gartrefi cyhoeddus, megis Pruitt-Igoe yn St. Louis yn yr U.D.A., Park Hill yn Sheffield a Red Road yng Nglasgow, gwelwyd dirywiad cymdeithasol sylweddol gan arwain at broblemau sylweddol o ran torcyfraith a thlodi.
O ganlyniad i'r problemau hyn, mae nifer fawr o adeiladau briwtalaidd o'r 1960au a'r 1970au bellach wedi eu dymchwel, hyn yn oed yn wyneb ymgyrchu i'w hachub, fel yn achos Ysgol Gyfun Bettws yng Nghasnewydd. Fodd bynnag, mae tuedduad cynyddol i werthfawrogi enghreifftiau gorau'r arddull, ac i gydnabod mai problemau cymdeithasol, ac nid pensaernīol, oedd wrth wraidd methiant yr ystadau mawr fel Pruitt-Igoe. Mae nifer o flociau fflatiau cyngor briwtalaidd yn Llundain bellach wedi'u troi'n fflatiau moethus i unigolion cyfoethog. Mae nifer cynyddol o adeiladau briwtalaidd Prydeinig yn cael eu rhestru, gan gynnwys Amgueddfa Gwerin Cymru.[5] Mae prosiectau adnewyddu wedi rhoi newydd gwedd i rhai adeiladau briwtalaidd, er enghraifft Park Hill yn Sheffield, a Thŵr Cwmbran.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.