From Wikipedia, the free encyclopedia
Cymuned yng ngogledd-orllewin Sir Benfro, Cymru, yw Pen-caer[1], weithiau Pencaer neu Pen Caer. Saif i'r gorllewin a'r gogledd-orllewin o Wdig ger Abergwaun. Mae ei harwynebedd yn 3,588 hectar.
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 417 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.02°N 5.01°W |
Cod SYG | W04000462 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Stephen Crabb (Ceidwadwr) |
Daw enw'r gymuned o enw penrhyn Pen Caer, sy'n cynnwys Pen Strwmbl (Saesneg: Strumble Head). Nid oes unrhyw bentref mawr o fewn y gymuned, y mwyaf yw Tremarchog (St Nicholas) gyda phoblogaeth o ychydig dros 50, gydag aneddiadau gwasgaredig yn Llanwnda, Llangloffan, Trefaser a Treopert (Granston). Mae'r rhan arfordirol o'r gymuned yn rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn arwain trwyddi.
Ceir cromlechi neolithig yn Llanwnda a Thremarchog a dwy fryngaer o'r Oes Haearn uwchben Pwll Deri. Ceir carreg Ogham yn Eglwys Tremarchog.
Ger Carregwastad yn 1797 y bu glaniad y Ffrancod.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[3]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Pen-caer (pob oed) (474) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pen-caer) (187) | 41.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pen-caer) (293) | 61.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Pen-caer) (54) | 26.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.