Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Mynegiadaeth (Saesneg: Expressionism, Almaeneg: Expressionismus) yn symudiad celfyddydol modern. Yn nodweddiadol am fynegi (mynegi = express) emosiwn a theimladau trwy ddefnydd radicalaidd ac annaturiol o bersbectif, lliwiau, cysgod a golau yn hytrach na phortreadi realiti ffisegol.[1]
Enghraifft o'r canlynol | symudiad celf, arddull mewn celf |
---|---|
Dechreuwyd | 1900s |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gan ddechrau fel steil avant-garde cyn y Rhyfel Byd Cyntaf mewn barddoniaeth a phaentio. Datblygodd yn symudiad celfyddydol pwysig yn Yr Almaen ar ddechrau'r 20g gan gynnwys ffilm, theatr, pensaernïaeth a cherddoriaeth.[2]
Mae gwaith Mynegiadol (Expressionist) yn aml yn cyfleu ofn a phoen meddwl. Bu'n arbennig o wir am waith yr arlunwyr Edvard Munch a Vincent van Gogh a ddioddefodd broblemau iechyd meddyliol a bywyd cythryblus.[3]
Fe'i gwelir hefyd mewn gwaith artistiaid Almaeneg o'r cyfnod yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf a oedd wedi gweld a dioddef erchyllterau yn ystod y rhyfel a bu'n byw mewn cyfnod argyfyngus yr 1920au a arweiniodd i'r Natsïaid yn dod i rym.[1][4]
Ar ddiwedd y 19g bu arlunwyr fel Paul Gauguin yn herio syniadaeth celf Ewropeaidd gyfoes gyda'i ddefnydd mentrus o liw. Gwelwyd gwaith arddull Mynegiadol mewn gwaith arlunwyr fel Edvard Munch a'i darlun enwog Y Sgrech a Vincent van Gogh.
Bu'r arlunwyr yma'n ddylanwad mawr ar y genhedlaeth nesaf o arlunwyr Ewropeaidd fel y Ffrancwyr Henri Matisse a Georges Braque a fu'n gysylltiedig â'r grŵp Fauve, mudiad celfyddydol a ddechreuodd tua 1900 ac a barhaodd hyd nes tua 1910.[5][5][6]
Roedd eu lluniau'n cyfleu teimlad gyda defnydd gwyllt o liwiau gan ddiystyri liwiau go iawn y pwnc dan sylw. Roedd newydd-deb ei harddull yn syfrdanu rhai o'r beirniaid, gydag un yn disgrifio ei gwaith fel 'Pot paent wedi'i daflu yn wyneb y cyhoedd'.[7]
Yn Yr Almaen ym 1905 fe ffurfiwyd y grŵp celfyddydol Die Brücke ("Y Bont") yn Dresden a oedd hefyd yn rhannu llawer o syniadau Fauve. Cydnabyddir Die Brücke fel y grŵp Mynegiadol penodol cyntaf.
Yn 1911 ffurfiwyd Der Blaue Reiter ("Y Marchog Glas") ym München gan Wassily Kandinsky, Franz Marc ac August Macke ond ddaeth y grŵp i'w ben gyda'r Rhyfel Byd Cyntaf. Bu rhaid i Kandinsky adael yr Almaen i ddychwelyd i Rwsia a lladdwyd Marc ac August Macke yn yr ymladd.
Yn dilyn y rhyfel datblygodd Expressionismus i fod yn fudiad celf hynod o bwysig yn yr Almaen gan ddylanwadu'n gryf ar arlunwyr, llenorion a ffilm dros y byd.
Roedd llawer o'r artistiaid fel Ernst Kirchner, Max Beckmann ac Otto Dix wedi gweld a dioddef erchyllterau yn ystod y rhyfel ac adlewyrchwyd hyn yn eu paentiadau. Roeddent hefyd yn byw mewn cyfnod cythryblus yr Almaen 1920au a oedd yn ddylanwad ar yr hyn roeddent am fynegi yn eu gwaith.
Dywedir yn aml fod gwaith Mynegiadol yn gofnod o'r Almaen y cyfnod gan ddefnyddio'r gair Almaeneg: zeitgeist (zeit = amser, geist = teimlad/ysbryd).
Erbyn y 1930au yn yr Almaen, cafodd waith Mynegiadol ei gondemnio fel Entartete Kunst ('celf ddirywiedig') gan y Natsïaid a'i atal rhag ei arddangos yn gyhoeddus. Cafodd lawr o'r darluniau eu cipio a llyfrau eu llosgi gan y Natsïaid ac yn ddiweddarach anfonwyd llawer o'r artistiaid ac ysgrifenwyr na lwyddodd i ddianc yr Almaen i garchar neu'u lladd.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd datblygodd Abstact Expresionism (Mynegiadaeth Haniaethol) yn yr Unol Daleithiau gydag artistiaid fel Jackson Pollock a Mark Rothko.
Yn ystod y 1920 bu Sinema Fynegiadol yn yr Almaen. Eto'n nodweddiadol o'r defnydd radicalaidd ac annaturiol o bersbectif, lliwiau, cysgod a golau yn hytrach na phortreadi realiti ffisegol..
Bellach ystyrir ffilmiau fel Das Cabinet des Dr. Caligari, Metropolis, Der Golem a Nosferatu yn glasuron.
Cafodd sinema fynegiadol Almaen y 1920au ddylanwad mawr ar ffilmiau Hollywood yn ddiweddarach, yn arbennig Film Noir y 1950au. Symudodd y cyfarwyddwr Fritz Lang a'r actorion Peter Lorre a Conrad Veidt i'r Uniol Daleithiau i ddianc y Natsïaid.[8]
Mae dylanwad Mynegiadaeth i'w weld hyd heddiw ar waith cyfarwyddwyr cyfoes fel Tim Burton.
Defnyddir y term Mynegiadol hefyd ar gyfer gwaith llenyddol. Yn aml cyfeirir at waith Franz Kafka a James Joyce am ddangos rhai nodweddion Mynegiadol.
Yn ystod brif gyfnod Expressionismus yn yr Almaen yn y 1920au cyhoeddwyd y cylchgronau Der Sturm (Y Seren), o 1910 ymlaen,[9] a Die Aktion, o 1911 ymlaen gyda barddoniaeth a rhyddiaith fynegiadol yn ochr ac ochr a lluniau gan Kokoschka, Wassily Kandinsky ac aelodau eraill Der Blaue Reiter.
Bu Fynegiadaeth yn amlwg mewn Theatr yr Almaen ar ddechrau'r 20g gyda Georg Kaiser ac Ernst Toller y dramodwyr mwyaf nodweddiadol. Bu Reinhard Sorge, Walter Hasenclever, Hans Henny Jahnn ac Arnolt Bronnen yn ddramodwyr mynegiadol eraill. Bu'r dramodydd Swedeg August Strindberg a'r Almaenwr Frank Wedekind yn ddylanwad pwysig arnynt.
Bu nifer o weithiau Mynegiadaeth gan ddramodwyr Americaniad am gyfnod byr yn y 1920au. Yn cynnwys dramâu gan Eugene O'Neill (The Hairy Ape, The Emperor Jones a The Great God Brown), Sophie Treadwell (Machinal) ac Elmer Rice (The Adding Machine).
Dramodwyr Mynegiadol Almaeneg:
|
Dramodwyr wedi'u dylanwadu gan Mynegiadaeth
|
Defnyddiwyd Mynegiaeaeth i ddisgrifio rhai gweithiau o gerddoriaeth o tua 1918 ymlaen yn arbennig gwaith Arnold Schoenberg (1874–1951) a’i fyfyrwyr Anton Webern (1883–1945) ac Alban Berg (1885–1935). Mae cynfansoddwyr eraill sydd wedi'u cysylltu gyda Mynegiadaeth yn cynnwys Ernst Krenek (1900–1991), Paul Hindemith (1895–1963) ac Igor Stravinsky (1882–1971).
Lledodd ddylanwad celfyddyd Mynegiadaeth hefyd i bensaernïaeth gyda dau adeilad yn cael eu cysylltu'n arbennig, Y Pafiliwn Gwydr a gynlluniwyd gan Bruno Taut ar gyfer yr Arddangosfa Werkbund yn Cologne ym 1914 a'r Twr Einstein o 1921 gan Erich Mendelsohn yn Potsam. Mae'r Twr, a adeiladwyd ar gyfer gwylio'r sêr, yn dangos llawer o nodweddion setiau ffilm Fynegiadol.
Bu dylanwad yr arddull i'w weld ar bensaernïaeth fodern gan arloeswyr fel Walter Gropius, a Mies van der Rohe ac ar adeildau cyfoes fel Tŷ Opera Sydney ac Amgueddfa Iddewig Berlin.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.