arlunydd Ffrengig (1869-1954) From Wikipedia, the free encyclopedia
Arlunydd o Ffrainc oedd Henri Matisse (31 Rhagfyr 1869 – 3 Tachwedd 1954). Roedd yn un o arlunwyr enwocaf yr 20g am ei ddefnydd o liw a'i arddull rhydd. Dylunydd, argraffwr a cherflunydd oedd ef, ond fe'i adnabyddir yn bennaf fel peintiwr.[1]
Henri Matisse | |
---|---|
Ganwyd | 31 Rhagfyr 1869 Le Cateau-Cambrésis |
Bu farw | 3 Tachwedd 1954 Nice |
Man preswyl | Bohain-en-Vermandois, Paris, Issy-les-Moulineaux, Nice, Q122222531 |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, cerflunydd, gwneuthurwr printiau, lithograffydd, drafftsmon, seramegydd |
Adnabyddus am | Blue Nude, Blue Nude II, Chapelle du Rosaire de Vence |
Arddull | decoupage, celf tirlun, figure painting, bywyd llonydd, portread (paentiad) |
Mudiad | Argraffiadaeth, rhaniadaeth, Fauvisme, Neoargraffiadaeth, Ôl-argraffiaeth |
Priod | Amélie Parayre |
Plant | Marguerite Duthuit Faure, Jean Gérard Matisse, Pierre Matisse |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur |
llofnod | |
Gyda Pablo Picasso a Marcel Duchamp ystyrir Matisse yn o'r tri arlunydd a oedd yn bennaf gyfrifol am ysbrydoli'r datblygiadau chwyldroadol yng nghelfyddydau gweledol yr 20g.[2][3][4][5]
Er iddo gael ei labelu yn wreiddiol fel rhan o'r grŵp Fauve, erbyn y 1920au fe'i cydnabuwyd fel un a oedd yn driw i draddodiad clasurol peintio Ffrengig.[6]
Ganed ef yn Henri-Émile-Benoît Matisse yn Le Cateau-Cambrésis, Nord-Pas-de-Calais, Ffrainc, a magwyd ef yn Bohain-en-Vermandois yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc, lle'r oedd gan ei rieni fusnes hadau. Ym 1887 aeth i Baris i astudio'r gyfraith, ac wedi pasio ei arholiadau, bu'n gweithio fel gweinyddwr llys yn Le Cateau-Cambrésis. Dechreuodd arlunio ym 1889, a phenderfynodd ddod yn arlunydd. Dychwelodd i Baris i astudio, ac ym 1897 a 1898, ymwelodd â'r arlunydd John Peter Russell ar ynys Belle Île ar arfordir Llydaw. Cyflwynodd Russell waith Vincent van Gogh iddo, a newidiodd Matisse ei arddull yn llwyr. Dylanwadwyd arno hefyd gan Paul Cézanne, Gauguin a Paul Signac, a chan arlunwaith Japaneaidd. Cynhaliodd ei arddangosfa gyntaf ar ei ben ei hun ym 1904. Ym 1905 symudodd i dde Ffrainc.
Roedd Matisse ac André Derain yn brif arweinwyr Fauvisme, mudiad celfyddydol a ddechreuodd tua 1900 ac a barhaodd hyd nes tua 1910. Ymhlith aelodau eraill y grŵp oedd Georges Braque, Raoul Dufy a Maurice de Vlaminck.[7][7][8] Roedd eu lluniau'n cyfleu teimlad gyda defnydd gwyllt, amhersain o liwiau gan ddiystyru lliwiau go iawn y pwnc dan sylw. Roedd newydd-deb eu harddull yn syfrdanu rhai o'r beirniaid, gydag un yn disgrifio eu gwaith fel 'Pot paent wedi'i daflu yn wyneb y cyhoedd'.
Pan arddangoswyd eu gwaith yn yr un oriel â cherflun traddodiadol fe ddywedodd beirniad arall fod y cerflun parmi les fauves (ymhlith yr anifeiliaid gwylltion) ac fe gydiodd yr enw Fauve.[9] Ar ddiwedd ar y mudaid Fauve, parhaodd Matisse i fod yn gynhyrchiol. Symudodd i Montparnasse ym Mharis a oedd yn boblogaidd gydag arlunwyr ifanc, er bod ei wisg geidwadol a'i arferion gwaith trefnus yn gwbl groes i fywyd Bohemaidd yr ardal. Yn awyddus i ddarganfod dylanwadau newydd, teithiodd i Algeria, Morocco a Sbaen yn ymddiddori mewn celf Affricanaidd ac Arabaidd.
Ym 1906 daeth yn gyfeillgar â Pablo Picasso, a oedd ddeuddeg mlynedd yn iau. Yn ffrindiau oes, fe gymharwyd eu gwaith yn aml, er i Matisse gweithio'n bennaf o natur a Picasso o'r dychymyg. Cyfarfu'r ddau yn salon y casglwyr ariannog, teulu'r Stein. Daeth Gertrude Stein a'i chyfeillion, y chwiorydd Cone, yn noddwyr i Matiesse a Picasso gan brynu llawer o'u gweithiau. Sefydlodd ei gyfeillion Académie Matisse ym Mharis, a bu Matisse yn dysgu yno o 1911 hyd 1917.
Ym 1939 gwahanodd o'i wraig wedi 41 mlynedd. Ym 1941, yn dilyn llawdriniaeth, bu rhaid iddo ddefnyddio cadair olwyn. A'i symudiad wedi'i gyfyngu, fe ddechreuodd 'beintio gyda siswrn' gan greu collages o bapur yn dangos ei allu i ddod â'i ddawn gyda lliwiau i gyfrwng newydd. Yn y 1940au fe weithiodd fel dylunydd graffig yn cynhyrchu darluniau ar gyfer llyfrau a thros gant o lithograffau.
Er ei fod yn anwleidyddol, fe'i syfrdanwyd pan glywodd am ei ferch Marguerite, a oedd wedi bod yn aelod o'r Résistance yn erbyn y Natsïaidd, yn cael ei harteithio (bron hyd nes iddi farw) mewn carchar yn Rennes. Fe anfonwyd Marguerite i Wersyll-garchar Ravensbrück ond llwyddodd ddianc oddi ar y trên a oedd yn ei chludo yn ystod ymosodiad bomio. Wedi iddi guddio mewn coedwig fe'i hachubwyd gan ymladdwyr y Résistance.[10]
Ym 1951 gorffennodd Matisse brosiect pedair blynedd yn cynllunio addurniadau a ffenestri ar gyfer y Chapelle du Rosaire de Vence, a adnabyddir yn 'Capel Matisse' [11] Yn ôl y miliwnydd David Rockefeller, gwaith olaf Matisse oedd cynllunio ffenestri ar gyfer eglwys ym Pocantico Hills ger ystâd Rockefeller i'r gogledd o Efrog Newydd [12] Bu farw Matisse yn 84 oed ym 1954. Fe'i gladdwyd ym Monastère Notre Dame de Cimiez ger Nice.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.