beintiwr Ffrangeg, ystyrir ei waith arloesol yn ystod ail hanner y 19eg ganrif fel sylfaen i'r newidiadau radicalaidd a datblygodd yn y byd celf yn ystod yr 20fed ganrif From Wikipedia, the free encyclopedia
Arlunydd o Ffrainc oedd Paul Cézanne (19 Ionawr 1839 – 22 Hydref 1906). Ystyrir ei waith arloesol yn ystod ail hanner y 19g fel sylfaen i'r newidiadau radicalaidd a datblygodd yn y byd celf yr 20g. Defnyddiodd ddarnau o liwiau a strociau brwsh bach i adeiladu astudiaethau cymhleth. Mae'r paentiadau’n cyfleu ei ystyriaeth ddwys o’r ffigwr neu’r tirwedd dan sylw.
Paul Cézanne | |
---|---|
Cézanne tua 1861 | |
Ganwyd | 19 Ionawr 1839 Aix-en-Provence |
Bu farw | 22 Hydref 1906 Aix-en-Provence |
Man preswyl | Gardanne, quai d'Anjou |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, gwneuthurwr printiau, lithograffydd, drafftsmon |
Adnabyddus am | Banks of the Marne, A Modern Olympia, Mountains Mont Sainte-Victoire Seen from the Bibémus Quarry |
Arddull | bywyd llonydd, peintio genre, celf tirlun, portread |
Prif ddylanwad | Eugène Delacroix, Gustave Courbet |
Mudiad | Ôl-argraffiaeth |
Tad | Louis-Auguste Cézanne |
Mam | Anne Elisabeth Aubert |
Priod | Marie-Hortense Fiquet |
Plant | Paul Cézanne |
Gwefan | https://paul-cezanne.org |
llofnod | |
Yn ddylanwad mawr ar Picasso, Matisse, Braque, Metzinger a nifer fawr o arlunwyr eraill. Mae Matisse a Picasso i fod wedi dweud bod Cézanne yn dad ini gyd.
Ganwyd yn Aix-en-Provence de-ddwyrain Ffrainc, heb fod yn bell o'r ffin gyda'r Eidal. Gall y cyfenw Cézanne fod o dras Eidalaidd.[1]
Roedd ei dad yn gyfoethog, yn gyd-sylfaenydd banc, a oedd yn gallu sicrhau bywyd cyfforddus i’w fab, rhywbeth nad oedd yn bosib i'r rhan fwyaf o arlunwyr a oedd gorfod dibynnu ar werthu eu cynfasau yn unig.[2] Yn yr ysgol roedd yn ffrind agos gydag Émile Zola a aeth ymlaen i fod yn ysgrifennwr enwog.[3]
Astudiodd Cézanne y gyfraith ar ôl gadael yr ysgol i blesio ei dad, er gwaethaf ei diddordeb yn arlunio.[4] Ond cyn hir, gyd chryn anogaeth oddi wrth ei hen ffrind Zola a mawr siom ei dad, gadwodd y brifysgol ym 1861 i fyw ym Mharis i fod yn arlunydd. Serch hynny, yn ddiweddarach, derbyniodd Cézanne swm sylweddol iawn o arian mewn etifeddiaeth oddi wrth ei dad.[5]
O dan ddylanwad Romantisme a steil yr arlunwyr Argraffiadol (Impressionniste) cyntaf roedd gwaith cynnar Cézanne yn dueddol o fod yn dywyll. Datblygodd arddull gyda chyllell palet a alwodd yn caloreiddio a oedd yn cynnwys sawl llun treisgar o ferched, fel Merched yn gwisgo amdani, (tua 1867), Y Treisio (tua 1867) ac Y Llofruddiaeth (tua 1867-68) a ddangosodd ddyn yn trywanu merch wrth iddi gael ei dal i lawr gan ferch arall.
Ar ddechrau'r rhyfel Ffrainc-Prussia ym 1870, dihangodd Cézanne o Baris i L'Estaque yn Provence ble peintiodd tirluniau yn symud yn ôl i Baris ym 1871. Ym 1874 dangoswyd gwaith Cézanne yn arddangosfa gyntaf y grŵp Argraffiadaeth (Impressionnisme) ac ym 1877 y drydedd arddangosfa. Cyfarfu â'r peintiwr Camille Pissarro o'r grŵp a fu'n ddylanwad mawr arno, y ddau yn teithio trwy gefn gwlad Ffrainc i beintio tirluniau. Er gwaethaf ei lwyddiant a sylw cynyddol ym Mharis roedd well ganddo dychwelyd i Provence i beintio ar ben ei hun. O dan ddylanwad Pissaro rhoddodd y gorau i liwiau tywyll ac fe ddaeth ei gynfasau'n llawer ysgafnach a bywiog.[6]
Canolbwyntiodd Cézanne ar nifer cyfyngedig o bynciau – portreadau, tirluniau, bywyd llonydd ac astudiaethau o bobl yn nofio. Defnyddiodd lefydd, pobl a'r pethau o'i amgylch am y tri cyntaf: aelodau'r teulu a phentrefwyr ac ar gyfer y portreadau, tirwedd Provance am y tirluniau, a phethau fel ffrwythau ar gyfer y bywyd llonydd. Ond ar gyfer y nofwyr bu rhaid iddo ddylunio o'i ddychymyg oherwydd diffyg modelau.
Arbrofodd symleiddio ffurfiau naturiol i siapiau geometrig elfennol (er enghraifft - lleihau boncyff coeden i silindr - neu oren i belen). Arbrofodd hefyd sut i gyfleu dyfnderoedd a sawl safbwynt yn yr un llun.
Symudodd rhwng Paris a Provence nes iddo gael stiwdio yn Provance gyda ffenestri mawr i'w oleuo. Peintodd gyda Renoir yno ym 1882 a bu'n ymweld â Renoir a Monet in 1883. O hyn ymlaen arhosodd yn bennaf ym Provence, gan ddewis bywyd distaw a thirwedd ei hen filltir sgwâr dros brysurdeb y ddinas.
Mae ei hen dŷ yn Aix-en-Provence bellach ar agor i'r cyhoedd.[7]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.