Llygoden
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cnofil bychan hollysol o deuluoedd y Muridae a'r Cricetidae yw llygoden (enw benywaidd; lluosog: llygod), sy'n hawdd ei hadnabod ar ei thrwyn pigfain, llygaid treiddgar, clustiau crwm a chynffon fain ddi-flew neu bron heb flew. Y mwyaf cyffredin yw llygoden y tŷ (Mus musculus) a chaiff ei magu fel anifail anwes. Mewn rhai cynefinoedd mae llygoden y coed (Apodemus sylvaticus) hefyd yn gyffredin iawn. Mae'n ysglyfaeth i rai adar mawr eu maint megis y cudyll, y dylluan a'r eryr a mamaliaid eraill megis y gath a'r neidr. Ar adegau maent yn dod i fewn i dai pobl a gallant lochesu oddi fewn i hen waliau.
Llygoden fach Amrediad amseryddol: Mïosen hwyr - heddiw | |
---|---|
![]() | |
Llygoden y tŷ, Mus musculus | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | cnofilod |
Uwchdeulu: | Muroidea |
Teulu: | Muridae |
Is-deulu: | Murinae |
Genws: | Mus Linnaeus, 1758 |
Rhywogaeth | |
30 rhywogaeth |
Gallant ar adegau fod yn bla, gan fwyta a difetha cnyda'r amaethwr[1] gan achosi cryn golled a lledaenu afiechydon drwy'r parasitiaid sy'n byw arnynt a thrwy eu hysgarthiad.[2] Yng Ngogledd America, mae anadlu llwch sy'n cynnwys eu hysgarthiad wedi'i gysylltu gyda hantavirus, a all, yn ei dro, achosi Hantavirus Pulmonary Syndrome (HPS).
Anifail nosol ydynt yn bennaf sy'n dibynnu ar eu clyw yn hytrach na'u golwg.[3][4] Mae eu synnwyr arogli hefyd wedi'i fireinio'n arbennig iawn, yn enwedig er mwyn canfod bwyd a lleoli helwyr fel cathod.[5]
Mewn llenyddiaeth
- Crogi llygoden: Yn nhrydedd gainc y Mabinogi (sef chwedl Manawydan fab Llŷr) mae Manawydan, brawd Branwen a Brân Fendigaid a Phryderi yn dychwelyd i Ddyfed, lle mae Pryderi yn cael ei gaethiwio mewn caer hud, ac yna mae Rhiannon hithau yn cael ei charcharu wrth geisio ei achub, gan adael dim ond Manawydan a Chigfa ar ôl. Ymhen dwy flynedd mae Manawydan yn dal un o'r llygod sydd wedi bod yn bwyta ei ŷd, ac yn mynd ati i'w chrogi. Daw ysgolhaig, offeiriad ac yna esgob heibio i geisio perswadio Manawydan i beidio crogi'r lygoden. Datgelir mai gwraig feichiog Llwyd fab Cil Coed yn rhith llygoden ydyw, ac mai Llwyd a osododd yr hud ar Ddyfed fel dial am y modd y cafodd ei gyfaill Gwawl fab Clud ei gamdrin gan Pwyll yn y gainc gyntaf. Rhyddheir ei wraig ar yr amod ei fod yn rhyddhau Pryderi a Rhiannon a chodi'r hud.
- 'Crogi Llygoden' - cân gan Geraint Jarman.[6]
- Ceir hen bennill enwog am ddwy lygoden:
- Mi welais ddwy lygoden
- Yn cario Pont Llangollen,
- Rownd-abowt o gylch y ddôl
- Ac yn eu hôl drachefen!
Rhywogaethau o ‘lygod’ yng Nghymru

Llygod bach
- Llygoden y coed – Apodemus sylvaticus
- Llygoden warfelen – Apodemus flavicollis
- Llygoden y tŷ – Mus musculus
- Llygoden yr ŷd – Micromys minutus
Llygod mawr
- Llygoden Ffrengig – Rattus norvegicus
- Llygoden ddu – Rattus rattus
Llygod pencrwn
- Llygoden goch – Myodes glareolus (Clethrionomys glareolus cynt)
- Llygoden y gwair – Microtus agrestis
- Llygoden y dŵr – Arvicola amphibius (Arvicola terrestris cynt)
- Llygoden Sgomer – Myodes glareolus skomerensis (Clethrionomys glareolus skomerensis cynt)
Llygon (chwistlod)
(dim wir yn llygod o gwbl)
- Llŷg cyffredin (chwistlen gyffredin) – Sorex araneus
- Llŷg lleiaf (chwistlen leiaf) – Sorex minutus
- Llŷg y dŵr (chwistlen ddŵr) – Neomys fodiens
Cyfeiriadau
Gweler hefyd
Dolennau allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.