diwydiannwr a gwleidydd From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Syr Lewis Lougher (1 Hydref 1871 - 28 Awst 1955) yn ddyn busnes a gwleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol etholaethau Dwyrain Caerdydd a Chaerdydd Canolog yn y 1920au.[1]
Lewis Lougher | |
---|---|
Ganwyd | 1 Hydref 1871 Llandaf |
Bu farw | 28 Awst 1955 Radur |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | diwydiannwr, gwleidydd |
Swydd | Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Roedd Lougher yn ail fab i Thomas Lougher o Landaf a Charlotte née Lewis, ei wraig.
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Uwchradd Caerdydd a Choleg Technegol Caerdydd[2]
Ni fu’n briod.
Wedi gadael y coleg fe’i prentisiwyd i fasnachwyr ŷd, cyn sefydlu ei fusnesau ei hun yn y diwydiant llongau, gan sefydlu busnesau llwyddiannus ar adeg pan oedd Caerdydd yn brif borthladd glo'r byd. Ym 1910 sefydlodd cwmni llongau Lewis Lougher and Co. Ltd. a bu ganddo lynges o longau yn nociau Bute. Bu'n gadeirydd nifer o gwmnïau llongau yng Nghaerdydd, Penarth a'r Barri. Roedd yn cael ei gyfrif fel yn arbenigwr ar broblemau allforio a thrin glo, gan wasanaethu fel aelod o’r Bwrdd Trimio Glo Cenedlaethol rhwng 1918 a 1919.
Bu’n weithredol ym maes ddatblygu tai fel cyfarwyddwr cwmnïau Whitehouse Precast Concrete Limited, a Danybryn Estates Limited. Roedd hefyd yn gyfarwyddwr ar Ben Evans & Co. Ltd, siop adrannol yn Abertawe.[3]
Bu'n aelod o Gyngor Sir Forgannwg o 1922-1949 ac yn aelod a chadeirydd Cyngor Dosbarth Gwledig Caerdydd.
Safodd fel ymgeisydd Plaid yr Unoliaethwyr (Ceidwadwyr) yn etholaeth Ddwyrain Caerdydd yn etholiad 1922 gan gipio’r sedd oddi wrth y Rhyddfrydwr William Henry Seager. Collodd y sedd i’r rhyddfrydwr Syr Henry Webb yn etholiad 1923. Cafodd ei ddewis fel ymgeisydd yn etholaeth Caerdydd Canolog wedi trafferthion ariannol James Childs Gould gan gadw’r sedd i’r Unoliaethwyr yn etholiad 1924. Collodd y sedd i’r ymgeisydd Llafur, Syr Ernest Nathaniel Bennett yn etholiad 1929[4][5]
Y peth mwyaf nodedig am ei yrfa seneddol oedd iddo lwyddo i basio deddf aelod preifat trwy’r Senedd - Deddf Goleuo Trafnidiaeth (1927). Deddf a oedd yn mynnu bod gan bob cerbyd modur golau gwyn ar ei ochr blaen a golau coch ar ei ochr ôl; rheol sy’n bodoli hyd heddiw.
Roedd yn frwd wrth gefnogi achos gwneud Caerdydd yn brifddinas Cymru.[6]
Fe’i hurddwyd yn farchog am ei wasanaeth gwleidyddol ym 1929.[7]
Gwasanaethodd fel cadeirydd ffederasiwn perchnogion llongau Môr Hafren ym 1919 ac fel cadeirydd Siambr Fasnach Caerdydd. Cynrychiolodd y siambr masnach mewn cynadleddau i siambrau masnach yr Ymerodraeth Brydeinig yn Toronto, Canada ym 1920; Yn Cape Town, De Affrica ym 1927 ac yn Wellington, Seland Newydd ym 1936. Gwasanaethodd fel aelod o’r llys ymchwil i oriau gwaith tipwyr a thrimwyr glo a sefydlwyd o dan Ddeddf Llysoedd Diwydiannol (1919).
Bu'n ynad heddwch dros Sir Forgannwg. Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Morgannwg ym 1931[8].
Bu farw yn ei gartref, Dan-y-Bryn Park, Radur, yn 83 mlwydd oed.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.