gweinidog Wesleaidd From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd John Evans (28 Medi 1840 – 23 Hydref 1897) a oedd yn cael ei adnabod yn gyffredinol fel John Evans, Eglwysbach yn weinidog Cristionogol Cymreig gydag enwad y Wesleaid.[1][2]
John Evans | |
---|---|
Ganwyd | 28 Medi 1840 Eglwys-bach |
Bu farw | 23 Hydref 1897 Lerpwl |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | crefyddwr, llenor, gweinidog yr Efengyl |
Ganwyd Evans yn y Tŷ Du, fferm yn Eglwysbach, Dyffryn Conwy. Roedd yn fab hynaf Dafydd a Jane (née Davies) Evans, deiliaid y fferm. Ym 1846, symudodd y teulu o Dŷ Du i Goleugell, Eglwysbach ac fel John y Gly'gell roedd yn cael ei adnabod yn ei fro enedigol.[3]
Derbyniodd addysg elfennol yn Ysgol Genedlaethol y pentref. Ysgolion a oedd yn cael eu rhedeg gan Eglwys Loegr oedd yr Ysgolion Cenedlaethol ac roedd David Owen, offeiriad y plwyf, yn awyddus i Evans aros ymlaen yn yr ysgol fel disgybl athro [4] (sef athro dan hyfforddiant). I wneud hynny byddai'n rhaid iddo fod yn aelod o Eglwys Loegr. Roedd Evans eisoes wedi ymuno a'r Wesleaid, a heb awydd troi cefn ar ei enwad, ymadawodd a'r ysgol gan ddod yn fugail ar y fferm deuluol.
Yn un ar bymtheg oed, pregethodd am y tro cyntaf i gynulleidfa o wyth yng Nghapel Garmon, ac yn fuan daeth yn bregethwr adnabyddus a phoblogaidd gyda'r cynulleidfaoedd lleol.[3] Yng Nghyfarfod Taleithiol Llanfyllin 21 Mehefin, 1860 fe'i derbyniwyd fel ymgeisydd ar gyfer y weinidogaeth ond oherwydd iechyd bregus nid oedd modd iddo fynd ymlaen i goleg diwinyddol.[5]
Dechreuodd ei yrfa yn Nhregele, Cylchdaith Amlwch fel gwas cylchdaith am flwyddyn ac yna fel gweinidog ar brawf. Ym 1863 ymadawodd Môn am yr Wyddgrug, lle cafodd ei ordeinio i'r weinidogaeth ym 1865. Y drefn i weinidogion Wesleaidd ar y pryd oedd symud cylchdaith (ardal gweinidogaeth) pob tair blynedd. Bu Evans yn gwasanaethu yng Nghylchdeithiau Lerpwl (1866 - 1869); Tregarth (1869 - 1872); Chester Street Lerpwl (1872 -1875); Shaw Street Lerpwl (1875 - 1878) Llundain (1878-1886); Bangor (1886-1889); Croesoswallt (1889 - 1890); a chylchdaith Saesneg Islington, Llundain (1890 - 1893). Bu hefyd ar deithiau pregethu hir yn yr Unol Daleithiau ym 1873 a 1887.
Ym 1884 etholwyd ef yn un o Gant Cyfreithiol y Gynhadledd Wesleaidd, sef cant o weinidogion blaenllaw oedd yn gyfrifol am lywodraethu'r enwad.
Ym 1895 daeth yn gadeirydd talaith De Cymru gyda chyfrifoldeb am arolygu holl gylchdeithiau'r ardal. Swydd debyg, o ran ei gyfrifoldeb, i un esgob yn Eglwys Loegr.
Yn ystod pedair blynedd olaf ei fywyd, trefnodd genhadaeth flaengar ym Morgannwg, a'i phencadlys ym Mhontypridd. Profodd y genhadaeth i fod mor lwyddiannus, gwnaed trefniadau i'w alluogi i'w gyfnewid ar gyfer swydd efengylwr peripatetig Cymru gyfan, ond roedd straen cenhadaeth Morgannwg yn rhy fawr a bu farw cyn gallu ymgymryd â'r swydd newydd.
Bu peth beirniadaeth o'i waith ym Mhontypridd. Anfonwyd cwyn i Ysgrifennydd Cynhadledd yr Eglwys Wesleaidd am y ffordd y mae Cenhadaeth Wesleaidd Cymru, sy'n cael ei newid yn raddol i'r Saesneg, yn effeithio'n ddifrifol ar ein diddordeb ni. Cyn hyn roedd Evans wedi gweld argoelion fod pobl ieuainc yn prysur golli'r heniaith, ond pwysicach iddo na chadw'r Gymraeg oedd cadw eneidiau hyd yn oed pe bai hynny'n golygu troi i efengylu yn y Saesneg.[6]
Roedd yn bregethwr hynod boblogaidd gyda channoedd yn tyrru i bob oedfa lle fu'n pregethu, yn aml gyda mwy o wrandawyr tu allan i'r capel nag oedd tu mewn.[1]
Yn ogystal â phregethu bu Evans hefyd yn awdur nifer o lyfrau ar bynciau crefydd. Tra'n weinidog yn Nhregarth cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, sef "Ymchwiliad Roger Edwards i Ryddid yr Ewyllys" cyfieithiad o adolygiad Henry P Tappan A Review of Edwards's "Inquiry Into the Freedom of the Will." Cyhoeddodd bywgraffiad Cymraeg am sylfaenydd ei enwad John Wesley ei fywyd a'i Lafur a phedair cyfrol o gyfieithiadau o bregethau John Wesley. Cyhoeddwyd ei ddarlith daleithiol, Methiant Gwyddoniaeth Ddiweddar i gyfrif am ddechreuad pethau. Ym 1898, blwyddyn wedi ei farw cyhoeddwyd Pregethau a darlithiau John Evans.[3]
Bu'n olygydd cylchgrawn "Y Winllan" (1878–9), ei waith ef oedd y rhan fwyaf o'r cylchgrawn "Y Fwyell" (1894-97), cylchgrawn Cenhadaeth Pontypridd a bu'n cyfrannu erthyglau i'r Eurgrawn.
Priododd Evans ddwywaith: yn gyntaf, ym 1873, i Charlotte (bu farw 1884),[7] merch John Pritchard o Lerpwl bu iddynt dwy ferch. Ym 1886 priododd ei ail wraig Clara Kate, merch James Richardson o Duke Street, Manchester Square, Llundain,[8] bu iddynt bedwar plentyn.
Pregethodd Evans ei bregeth olaf yn y Tabernacl, Capel Annibynwyr Treharris, ar nos Iau, 20 Hydref, 1897.[9] Aeth i Lerpwl y Sadwrn canlynol ar gyfer cyfarfod pregethu Eglwys Shaw Street, ond bu farw'r noson honno o drawiad y galon yn 57 mlwydd oed.[10] Claddwyd ei weddillion ym mynwent Anfield, Lerpwl.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.